Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

QNR – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau traffig ym Mhort Talbot?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Y prif fater ynghylch traffig ym Mhort Tablot yw’r posibilrwydd o gau cyffordd 41. Rŷm ni wrthi’n cynnal dadansoddiad pellach cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddu Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The basic payment scheme is administered across Wales. Currently 99 per cent of eligible farm businesses in Wales have had a payment. The 2016 online single application form has been a resounding success, with almost 100 per cent of BPS applications received using Rural Payments Wales Online.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

Over the next few weeks and months, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government will be meeting local government leaders and other stakeholders and listening to their views before considering the long-term approach to local government reform. A statement on our intentions will be made in due course.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio â’r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill i wella mynediad at wasanaethau, ac ansawdd a diogelwch gwasanaethau, yn sir Benfro a ledled Cymru. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol gwerth mwy na £0.5 biliwn yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod 2015-16.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative

Pa feini prawf a ddefnyddia Llywodraeth Cymru i gyfrif gwerth effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae effaith gwariant Croeso Cymru ar economi Cymru yn cael ei asesu mewn sawl ffordd, gan gynnwys gwariant ychwanegol gan dwristiaid o ganlyniad i waith marchnata Croeso Cymru, gwariant gan ymwelwyr sy’n aros dros nos yng Nghymru wedi ei fesur yn arolwg twristiaeth Prydain Fawr a’r arolwg teithwyr rhyngwladol, ac ystadegau sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru sy’n asesu perfformiad pob un o’n sectorau blaenoriaeth, gan gynnwys twristiaeth.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau casglu gwastraff llywodraeth leol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

Excellent progress is being made by local authorities. The provisional recycling rate reached 59 per cent across Wales for the year to December 2015. We are number one in the UK, fourth in Europe—a testament to the hard work of local councils and residents across Wales.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Plaid Cymru

Pa bryd y bydd y Prif Weinidog yn cwrdd nesaf ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Fe wnes i gwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Llun.