<p>Cloddio Glo Brig</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yr anhawster yn y safle, wrth gwrs, yw bod y safle ar hyn o bryd yn nwylo cwmni nad yw, mewn gwirionedd, yn bodoli. Mae wedi ei gofrestru yn Ynysoedd Virgin Prydain, a phe byddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn ei erbyn, nid oes gennyf unrhyw ffydd y byddai’r sefydliad yn parhau i fodoli, gan adael neb, fel y mae hi’n gwybod, y gellir cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn. Yn fy marn i, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn cydnabod ei chyfrifoldebau. Ni chrewyd hyn gan Lywodraeth bresennol y DU, ond gan Lywodraeth y DU yn 1994. Nid oes amheuaeth bod y swm o arian yr ydym yn sôn amdano yma, dim ond i adfer un safle yn llawn ym Mharc Slip, yn enfawr. Ni all fod yn rhesymol i ddisgwyl i'r awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru dalu costau llawn y gwaith adfer hwnnw.