<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:43, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae problem fawr arall y mae angen mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, sef twf TB buchol. Yn wir, yn fy rhanbarth i, yn Sir Gaerfyrddin, mae achosion o wartheg a laddwyd o ganlyniad i TB buchol wedi cynyddu gan 87 y cant eleni ac yn Sir Benfro maent wedi cynyddu gan 78 y cant. Gan nad oes brechlyn ar gael, nid yw'r dewis a ffefrir ar gael i ni. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud mewn gwirionedd i geisio ymdopi â'r broblem gynyddol o TB buchol?