<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Na. Eisteddais yma—neu sefais yma, mewn gwirionedd—yn y Siambr cyn yr etholiad, yn gwrando ar arweinydd yr wrthblaid, fel yr oedd bryd hynny, yn dweud y byddent yn gwneud ymrwymiadau gwario ym mhob maes, heb wybod o ble y byddai’r arian hwnnw yn dod. Mae'n gwestiwn dilys ac mae dau ateb iddo. Yn gyntaf oll, ie, bydd yn rhaid inni edrych ar rai o'n hymrwymiadau gwario cyfredol—nid ein hymrwymiadau yn y maniffesto—a bydd hynny’n digwydd yn ystod proses y gyllideb, oherwydd bydd yn rhaid i'r arian ddod o rywle, mae hynny'n wir. Ond, yn ail, er y byddwn yn gweld toriadau mewn termau real yn y grant bloc a gawn, bydd cynnydd yn y swm o arian sydd ar gael. Felly, bydd arian ychwanegol, hyd yn oed os nad yw'n ddigon ar gyfer chwyddiant. Felly, bydd, bydd penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i ni eu gwneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ond rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i’r arian a bydd hynny’n dod yn amlwg yn ystod proses y gyllideb.