<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:56, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, efallai eich bod wedi gweld darllediad 'gadael' yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud y byddai cyfraniadau UE Prydain yn cael eu gwario ar y GIG pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd wedi clywed eu bod yn mynd i gael eu gwario ar warantu cymorth rhanbarthol i Gymru, maent hefyd yn gwarantu taliadau i ffermwyr, ac yn awr, o ryfeddod, o ryfeddod arian hud, mae'n mynd i warchod y symiau sydd yn mynd i brifysgolion Cymru. A ydych chi’n cytuno â mi mai ffordd well o gadw pob un o'r cyfraniadau gwerthfawr hyn i'n heconomi yw pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau nesaf?