Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Mehefin 2016.
Wel, y broblem gyda Bosch oedd bod—. Mae'n iawn i ddweud bod y ffatri wedi symud i Hwngari. Daeth y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn gweithio yno o hyd i swyddi mewn mannau eraill, mewn gwirionedd, yn gyflym iawn. Mae Renishaw erbyn hyn, wrth gwrs, yw perchennog y safle ac mae Renishaw yn datblygu'n gyflym iawn, iawn. Ond, mae angen i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd ein bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad o wledydd eraill. Felly, mae'n gweithio y ddwy ffordd. Ac oes, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi dioddef fwyaf o globaleiddio yn cael eu diogelu. Mae hynny wedi bod yn wendid, mae'n rhaid i mi ddweud, gan nad yw globaleiddio wedi bod yn fudd digamsyniol i lawer o weithwyr. Beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl dydd Iau, mae'n rhaid trechu'r syniad bod yn rhaid i ni fyw mewn cyfnod o gyni am byth a bod yn rhaid i ni fyw mewn cyfnod lle mae hawliau gweithwyr yn gyson yn cael eu lleihau, oherwydd ni fydd y bobl sy'n gweithio yng Nghymru a Phrydain yn derbyn hynny. Ond, bydd ef a minnau mewn sefyllfa wahanol o ran sut y byddwn yn datrys hynny. Nid wyf i’n ystyried mai gadael yr UE a’n rhoi ni yn nwylo'r rhai a lofnododd y llythyr hwnnw, sydd yn farchnatwyr rhydd anystywallt, nad ydynt yn poeni dim am hawliau gweithwyr, yw’r ffordd ymlaen mewn gwirionedd. Ond, mae’r dyddiau pan y gallem ddweud wrth bobl bod, 'Globaleiddio yn gyfan gwbl yn beth da' wedi mynd, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, ledled Ewrop, bod hawliau pobl yn cael eu diogelu, bod hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu, a bod pobl yn teimlo bod llywodraethau wirioneddol ar eu hochr nhw, ac mae llawer o Lywodraethau wedi colli eu ffordd yn hynny o beth.