Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Mehefin 2016.
Wel, mae'n dibynnu beth yr ydych chi’n ei olygu wrth 'cystadleuol'. Os yw'n mynd i ddisgyn yn helaeth, byddai hynny, fel y gŵyr yn dda iawn, yn ysgogi chwyddiant, oherwydd ein bod yn mewnforio cymaint. Yn fwy na dim arall, yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant dur yw marchnad, ac, os nad yw'n gallu mynd i mewn i'r farchnad Ewropeaidd neu unrhyw farchnad arall yn y byd heb i dariff cael ei osod, yna nid oes gan y diwydiant dur ddyfodol. Nid yw'r DU yn ddigon mawr i ysgogi’r galw ar gyfer diwydiant dur y DU. Ac, yn fy marn i, yr hyn sy'n fy mhoeni i yn fwy na dim arall yw nad wyf yn credu bod yna gynllun ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os byddwn yn gadael. Mae Nigel Farage ei hun wedi dweud nad oes ots pa un a oes cytundeb masnach ai peidio. Mae hynny'n gwbl drychinebus i economi'r DU. Rydym yn allforio—[Torri ar draws.] Wel, rydym yn allforio hanner yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu. Rydym yn allforio ei hanner i'r UE: mae hanner ein hallforion yn mynd yno. Yn dod y ffordd arall, 7 y cant ydyw; dyna'r gwahaniaeth. Gall fod yn ffigwr uwch yn ariannol, ond fel canran rydym yn allforio llawer mwy nag sy’n dod yn ôl i mewn. A’r hyn sy'n fy mhoeni i yw y bydd ein marchnad allforio yn cael ei pheryglu, bydd cig oen Cymru yn cael ei daro gan ergyd ddwbl lle y byddai'n costio mwy i werthu cig oen o Gymru ar y cyfandir, ac eto rwyf yn clywed eich plaid chi yn dweud eich bod eisiau cytundeb masnach gyda Seland Newydd sy’n golygu y bydd llwythi o gig oen o Seland Newydd yn dod i mewn i Gymru yn rhad. Felly, mae rhai canlyniadau yma nad ydynt wedi eu hystyried yn ofalus. Byddai'n well, yn fy marn i, na fyddai gennym y rhwystrau i allforio y byddai gadael y DU yn eu hachosi. Byddai’n well peidio â chael hynny, ac yn well i gael sefyllfa lle, ydym, yr ydym yn gallu allforio yn rhydd ac rydym yn gallu cael gafael ar y cronfeydd arian hynny. Ni fyddwn yn cael y cronfeydd arian hynny ac ni fyddwn yn cael y mynediad gwarantedig hwnnw os byddwn yn gadael.