Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Mehefin 2016.
Wel, y peth i ni, wrth gwrs, yw sicrhau bod yna fanc datblygu yn cael ei sefydlu, a defnyddio strwythur hynny er mwyn cryfhau’r cynghori sydd ar gael i fusnesau. Mae’n hen broblem, wrth gwrs, ynglŷn â chael mynediad i gaffael ac i gyfalaf. Rŷm ni, wrth gwrs, wedi gweithio’n galed gyda busnesau er mwyn sicrhau bod yna fwy a mwy o fusnesau o Gymru yn gallu cael cytundebau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rŷm ni’n gweld bod y nifer hwnnw wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, mae yna sawl cynllun mewn lle er mwyn cryfhau’r sefyllfa ymhellach eto.