Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Mehefin 2016.
Pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda'r gwahoddiad byddaf wrth gwrs yn ei ystyried. Mae'n cyflwyno achos cryf dros y cynllun y mae wedi'i grybwyll. Rydym bob amser yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar gynlluniau sydd wedi gweithio'n effeithiol ledled Cymru gyfan er mwyn gweld sut y gellir eu cyflwyno yng ngweddill y wlad.