<p>Blaenoriaethau ar gyfer y GIG</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Nid wyf yn credu bod y sylwadau'n gywir bellach. Rhoesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol—amseroedd ambiwlans, er enghraifft, yn un peth—o ran darparu gwasanaethau yn yr ardal. Ac mae hynny’n briodol oherwydd roedd yn eithaf amlwg i ni ar y pryd nad oedd y bwrdd iechyd lleol yn cyflawni fel y dylai—yn sicr nid oedd yn cyfathrebu â phobl fel y dylai. Mae'r sefyllfa bellach, yn fy marn i, wedi gwella'n sylweddol. Ond, serch hynny, mae'n bwysig ystyried sylwadau y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn achub ar bob cyfle i wella.