Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau, wrth gwrs, i weithredu’r blaenoriaethau a nodir yn ‘Bwrw Mlaen’, gyda ffocws ar gynyddu defnydd o’r iaith gan bobl, ynglŷn â sicrhau ein bod yn gwella cynllunio a datblygu’r seilwaith drwy dechnoleg a safonau a chynyddu addysg Gymraeg.