Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rwy’n croesawu’n fawr iawn agoriad y ganolfan ei hun—rydym wedi buddsoddi yn y ganolfan. Mae cwm Tawe yn ardal sydd wedi mynd o ardal a oedd yn ardal mwyafrif Cymraeg i ardal lle mae’r Gymraeg yn tueddu i gael ei siarad nawr ar ben y cwm—mewn 30 o flynyddoedd, byddwn i’n dweud, sy’n gwymp sylweddol. Mae’n bwysig dros ben, felly, ein bod yn gallu sicrhau bod yna fywoliaeth i’r Gymraeg islaw Ystalyfera tuag at Ynysmeudwy a Phontardawe, i lawr i Glydach ac ymhellach, er mwyn sicrhau bod yr etifeddiaeth Gymraeg yn yr ardal yn cael ei hailfywhau.