Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae yna brosiect peilot wedi cymryd lle yn nyffryn Teifi er mwyn sicrhau bod busnesau’n gweld nad yw’n anodd dros ben i sicrhau bod yna wasanaeth Cymraeg ar gael, a hefyd i weld bod hwn yn rhywbeth sydd o les iddyn nhw’n fasnachol, er mwyn eu bod yn gallu gweithredu gwasanaeth i bobl sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg a phobl sy’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yna wasanaeth ar gael. Felly, byddwn ni’n ystyried canlyniadau’r prosiect hynny i weld ym mha ffordd y gallwn sicrhau bod busnesau’n gweld ei bod yn fantais masnachol iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnesau nhw.