3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:23, 14 Mehefin 2016

Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn i godi dau fater gyda chi, a gobeithio y bydd modd i’r Llywodraeth ymateb mewn datganiad i’r materion hyn.

Yn gyntaf oll, wrth gwrs, rydym heddiw yn nodi’r gyflafan a fu yn Orlando gyda munud o dawelwch yn y Siambr hon, ac roedd yn briodol, hefyd, gweld bod baneri’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ar eu hanner ddoe a heddiw, a baner enfys yn eu plith, wrth gwrs. A fedrwn ni, felly, gael datganiad pellach gan y Llywodraeth parthed ei pholisi cyhwfan baneri? Fe gofiwch, efallai, imi godi hwn ddiwethaf gyda chi adeg y bu Llywodraeth Cymru yn cyhwfan baneri ar eu hanner i nodi marwolaeth Brenin Saudi Arabia, digwyddiad a oedd i mi yn dwyn sarhad a sen ar bobl Cymru. Addawyd gan y Prif Weinidog bryd hynny y byddai adolygiad o’r polisi yn dilyn ac yn hytrach na dilyn yn slafaidd gyngor y weinyddiaeth dramor, y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu ei pholisi ei hun. Beth, felly, yw canlyniad yr adolygiad hwnnw? A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog i esbonio’r canllawiau sy’n cael eu defnyddio bellach gan y Llywodraeth i benderfynu pryd i arddangos eu lliwiau, yn llythrennol?

Yr ail gwestiwn yr hoffwn ei godi gyda chi yw bod y Cynulliad hwn, wrth gwrs, ag enw arloesol ym maes deddfu a seneddu, os caf i fathu term, yn y ddwy iaith, a’r Llywodraeth yn dilyn. Roedd yn siom, felly, imi weld bod Chris Grayling, arweinydd y Tŷ arall, wedi gwrthod galwadau ar gyfer gwneud defnydd o’r Gymraeg yn uwch-bwyllgor Cymreig y lle hwnnw—galwadau a oedd wedi cael eu harwain, i fod yn deg, gan Chris Bryant. Mae modd defnyddio’r Gymraeg yn y pwyllgor hwnnw os yw’n cyfarfod yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod hynny achos rwyf i wedi ei wneud e fy hunan yng Nghwmbrân rai blynyddoedd yn ôl, ac mae’n hen bryd i ganiatáu’r un peth pan fo’r pwyllgor yn cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin ei hunan. A oes modd, felly, i chi, fel y prif reolydd busnes yn y Cynulliad yma, arwain y ffordd i gynnig cymorth ymarferol i Dŷ’r Cyffredin i ddod dros y rhagdybiaethau sydd ganddynt yno yn erbyn defnyddio’r Gymraeg, cynnig cyngor gan y Llywodraeth i gyflawni hynny ac adrodd nôl yn y ffordd briodol i’r lle hwn?