Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolchaf i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Croesawodd y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad gasgliadau ac argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Davies. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y pumed Cynulliad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny?