Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am dynnu sylw'r Senedd at stori lwyddiant go iawn i Gymru a sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y dyfodol. Yng Nghymru y mae’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn y Deyrnas Unedig a phe byddai’n adrodd ar wahân, y bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Hoffwn dalu teyrnged i’m rhagflaenydd, Carl Sargeant, am ei gyfraniad i gyflawniadau Cymru o ran ailgylchu a defnyddio adnoddau’n effeithlon a hefyd gydnabod ymdrechion awdurdodau lleol Cymru a'r cyhoedd yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn.
Cyrhaeddodd cyfradd ailgylchu trefol Cymru 59 y cant yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2015 a 58 y cant yn nhrydydd chwarter blwyddyn lawn 2015-16. Mae hyn 5 y cant yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2014-15. Yn y dadansoddiad cyfansoddol newydd o wastraff trefol, a gyhoeddwyd gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau heddiw, nodir bod tua chwarter yr hyn sydd yn y gwastraff bag du—gwastraff gweddilliol—yn wastraff bwyd, a chwarter arall yn ddeunydd ailgylchadwy sych. Pe gallem gadw hyd yn oed hanner y deunydd hwn, gallem yn gyfforddus gyrraedd ein targed o ailgylchu 70 y cant o wastraff trefol. Mae hyn yn dangos cynnydd mawr o ran rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, ei arwyddocâd gwirioneddol yw bod gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon yn cynnig porth i'r economi gylchol.
Mae economi gylchol yn un lle gellir defnyddio deunyddiau mewn modd cynhyrchiol dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision niferus law yn llaw â hynny. Gall y manteision hyn ein helpu i gyflawni nifer o'n nodau lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig felly Gymru lewyrchus, Cymru wydn a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Mae astudiaeth ddiweddar gan Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi nodi buddion economaidd posibl o fwy na £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae astudiaeth bellach gan WRAP a’r Gynghrair Werdd yn darogan y gall hyd at 30,000 o swyddi newydd gael eu creu yng Nghymru drwy ddatblygu economi gylchol.
Mae miloedd o weithwyr Cymru’n cael eu cyflogi mewn cwmnïau cadwyn gyflenwi mawr a bach, sy'n ymwneud â chasglu, cludo, ailbrosesu ac ailweithgynhyrchu deunyddiau ledled Cymru. Gall dur, alwminiwm, papur, cardfwrdd, gwydr, plastig, tecstilau a nwyddau electronig i gyd gael eu hailgylchu, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth drwy’r economi gylchol.
Mae angen inni sicrhau bod cymaint o ddeunyddiau â phosibl yn cael eu hailddefnyddio o fewn economi gylchol Cymru. Mae angen i’r deunyddiau hyn fod o ansawdd da er mwyn bod yn ddeniadol i gwmnïau ailbrosesu lleol a chael y prisiau gorau. Drwy hynny, bydd awdurdodau lleol a deiliaid tai yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol ac economaidd gwell yn ogystal â mwy o ailgylchu.
Mae'n bwysig i ddeiliaid tai yng Nghymru wybod ble mae'r deunyddiau a gasglwyd oddi wrthynt yn cael eu hailgylchu. Mae adroddiad diweddar ar gyrchfannau terfynol y deunyddiau a gesglir i'w hailgylchu gan awdurdodau lleol Cymru yn dangos bod llai na’u hanner, yn ôl pwysau, yn cael eu hailgylchu yng Nghymru. Mae potensial aruthrol i roi hwb i economi Cymru a nifer y swyddi drwy ailbrosesu mwy o'r deunyddiau hyn yma yng Nghymru.
Felly, fy mwriad fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yw bwrw ymlaen â pholisïau er mwyn sicrhau economi gylchol yng Nghymru. Bydd hyn yn un o’m blaenoriaethau allweddol ac mae’n cyd-fynd â'n gwaith i ymateb i becyn yr economi gylchol sy'n cael ei gynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Byddaf yn edrych ar yr holl fecanweithiau angenrheidiol, gan gynnwys deddfwriaeth, i'w gwneud yn ofynnol sicrhau bod llawer iawn o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu mewn cynnyrch sy’n cael ei gaffael gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf hefyd yn edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd i sicrhau bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhannu beichiau rheoli gwastraff o gartrefi yn fwy cyfartal. Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru a'r sector preifat i weld sut mae cyflawni'r nodau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad o'r glasbrint casgliadau, sy'n cadarnhau dilysrwydd y dull hwn o weithredu. Mae fersiwn diwygiedig o'r glasbrint ar hyn o bryd yn cael ei baratoi, a byddwn yn ymgynghori ar hyn yn ddiweddarach eleni.
Mae angen inni ystyried buddion posibl gwasanaethau casglu gwastraff mwy cyson i ddarparu deunydd crai o ansawdd uwch am gost casglu is. Mae’r llwyddiant yr ydym wedi'i weld yn ganlyniad yn bennaf i eglurder a chyfeiriad y strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a’i chynlluniau sector ategol. Mae'r cynllun sector trefol a’i lasbrint casgliadau yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y gallant wella canlyniadau ariannol, amgylcheddol ac economaidd. Rwyf am barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector, gan gynnwys busnes a'r trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cynnydd tuag at ein targedau yn cael ei gynnal, a’n bod yn datblygu ac yn darparu polisïau effeithiol i gyflawni ein hamcanion ehangach yn y maes hwn.
Rydym yn symud yn gyson tuag at ein nod cyffredinol o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Dywedasom yn ein maniffesto ein bod am weld Llywodraeth Cymru’n garbon-niwtral erbyn 2020. Mae'r nodau’n uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy ac yn golygu y bydd angen inni fel cenedl gynyddu ein hymdrechion o ran yr agenda rheoli gwastraff ehangach, nid dim ond ailgylchu, i leihau allyriadau ymhellach a hyrwyddo defnyddio adnoddau’n effeithlon drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o strategaeth wastraff 2010 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd dros dro y llynedd ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi papur trafod i gychwyn y drafodaeth ynghylch yr hyn y dylai'r strategaeth newydd ei gofleidio. Byddaf yn cyflwyno hyn i'r Senedd ac ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ehangach erbyn diwedd eleni.
Mae gan Gymru hanes balch o ran ailgylchu trefol, a bydd y targedau sydd ar waith yn sicrhau bod Cymru'n parhau i symud tuag at fod â’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn Ewrop. Bydd hyn yn dod â gweithgarwch economaidd ychwanegol, mwy o swyddi a mwy o ostyngiadau carbon. Mae'n rhaid inni gynnal y cynnydd hwn a sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gyfrannu tuag at y nodau sydd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyffrous iawn ym maes ailgylchu trefol a defnyddio adnoddau’n effeithlon, ac rwyf yn falch o gael cyfle i amlinellu’r agenda hon ichi heddiw. Diolch.