Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r Ysgrifennydd newydd i'w swydd a chithau i swydd y Dirprwy Lywydd? Credaf mai dyma'r tro cyntaf i chi fod yn y Gadair, hefyd. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Hoffwn ddweud bod llawer iawn o sbwriel ynddo, ond golygaf hynny yn y ffordd gadarnhaol orau bosibl. [Chwerthin.] Fe arhosaf gyda’r jôcs gwael ar ôl honno.
Yr un peth yr oeddwn yn ei feddwl am y ffordd yr ydym yn disgrifio’r stori gadarnhaol iawn hon i Gymru, fodd bynnag, yw efallai fod angen inni fod ychydig yn fwy rhagweithiol yn y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Nid yw 'economi gylchol' yn taro deuddeg ar garreg y drws i mi. Pan fyddwch yn sôn am strategaeth dyfodol diwastraff, credaf fod pobl yn deall hynny, a phan fyddwch yn sôn am y swyddi a all ddod yn sgil ailddefnyddio’r deunyddiau craidd a ddefnyddir gennym yn ein heconomi, credaf fod pobl yn deall hynny. Mae 'economi gylchol’ yn fy ngadael yn oer, felly rwyf yn gobeithio y gall y Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd mwy cyffrous o ddisgrifio’r hyn sy’n stori newyddion da i'r Llywodraeth ac i Gymru fel cenedl.
Mae'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn i'r Ysgrifennydd yn awr yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn mynd i symud yn nes at y targed hwnnw. Yn awr, roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ailgylchu, ac rwyf yn deall pam, ond o dan strategaeth dyfodol diwastraff, wrth gwrs, mae lleihau ac ailddefnyddio hefyd yn ddulliau allweddol o gyflawni hynny, ac, yn enwedig yn eich nodau carbon isel neu ddi-garbon chi fel Llywodraeth, rhaid i leihau ac ailddefnyddio fod yn fwy blaenllaw hyd yn oed nag ailgylchu. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am eich barn ynghylch sut yr ydych yn mynd i ddefnyddio’r offer hynny i hyrwyddo eich nodau ac, yn y cyd-destun hwnnw, a ydych yn rhoi pwyslais a sylw arbennig, er enghraifft, i gynllun blaendal-dychwelyd ar gyfer poteli plastig yng Nghymru? Cymerais ran mewn gweithgaredd glanhau traeth yn gymharol ddiweddar yn Llansteffan; roedd yn amlwg iawn fod bron pob yn ail eitem yr oeddem yn ei godi o'r traeth yn gaead potel ddiod blastig—caead chwaraeon. Hoffwn weld y Llywodraeth hon yn ystyried ffordd o annog pobl i ailddefnyddio deunyddiau o'r fath yng Nghymru, a bydd Plaid Cymru yn sicr yn dadlau o blaid hynny. A oes pethau, gan ein bod yn edrych tuag at yr haf, a bydd llawer o wyliau’n cael eu cynnal—rwyf wedi bod i un neu ddwy yn barod ac yn edrych ymlaen at ragor—a sioeau a digwyddiadau amaethyddol ac yn y blaen, lle y gallwn sicrhau bod ailddefnyddio ac ailgylchu’n rhan o hynny? Oherwydd mae llawer iawn o wastraff bwyd, a llawer iawn o wastraff plastig sy'n cael ei greu yn sgil ein digwyddiadau awyr agored. Maent yn bwysig iawn i’n cymunedau, ond byddai'n dda o beth sicrhau bod y strategaeth dyfodol diwastraff yn rhan ganolog o’r digwyddiadau cyhoeddus hynny yn ogystal.
Dywedasoch yn y datganiad—roedd yn eithaf diddorol, yn fy marn i—ei bod yn bwysig fod pobl Cymru’n deall yr hyn sy'n digwydd i'w gwastraff. Credaf fod hynny'n bwysig; clywaf lawer o fythau ar garreg y drws, yn llythrennol, lle mae pobl yn dweud eu bod yn rhoi’r compost allan ac nad yw’r compost ond yn cael ei losgi yn rhywle; nad yw a dweud y gwir ond yn diweddu mewn compost. Credaf fod angen inni ddeall ac esbonio hyn. A allwch ddweud, felly, sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod mwy o ailgylchu’n digwydd yma yng Nghymru, a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru a’r economi yma yng Nghymru? Soniasoch yn y datganiad mai tua hanner ein hailgylchu sydd mewn gwirionedd yn digwydd yn ein gwlad ein hunain. Credaf y dylem gynyddu hynny, a hoffwn i'r Llywodraeth bennu targed penodol o fewn ei strategaeth wastraff i gynyddu hynny.
Yr ail elfen yr hoffwn eich holi amdani yw eich barn, neu farn y Llywodraeth, am losgi. Pa le, os o gwbl, sydd i losgi gwastraff yn y strategaeth dyfodol diwastraff? Yn fy marn i ni ddylai fod dim rôl strategol iddo o gwbl, a dylech fynd ar drywydd moratoriwm ar losgi gwastraff. Mae rhai mathau o wastraff, wrth gwrs, y mae'n rhaid eu llosgi, fel gwastraff llawfeddygol a gwastraff ysbyty, ond fel strategaeth lleihau gwastraff, a strategaeth ailgylchu gwastraff, ni ddylai fod dim lle i losgi. Credaf ein bod wedi cymryd rhai camau gwag yn y gorffennol drwy annog atebion lleol a rhanbarthol o ran strategaeth wastraff nad ydynt wedi mynd i'r afael â'n blaenoriaethau cenedlaethol. Rwyf yn gobeithio bod gwersi'r gorffennol wedi eu dysgu ac y byddwch yn pwyso ar unrhyw awdurdod lleol neu gonsortiwm sy'n dechrau defnyddio llosgi fel ffordd o ymdrin â'r maes hynod bwysig hwn, oherwydd, fel y mae eich datganiad yn nodi, mae ailgylchu ac ailddefnyddio’r deunyddiau hyn mewn gwirionedd yn golygu gwell bargen i’n cymunedau a'n heconomi.
Mae’r pwynt olaf yr wyf am ei godi â chi’n ymwneud ag ailgylchu masnachol. Credaf ein bod i gyd yn dal i fod yn rhwystredig iawn, gan ein bod yn gwneud ein gorau yn ein cartrefi ein hunain i gompostio, boed yn yr ardd neu yn y biniau, p’un a ydym yn ailgylchu ac yn rhoi cardfwrdd i’r naill ochr, yn rhoi poteli i’r naill ochr neu’n rhoi plastig i’r naill ochr, pan geisiwn brynu nwyddau—ac weithiau mae’n rhaid inni gael nwyddau newydd—rydym yn gweld eu bod wedi eu gor-becynnu a’u gor-gyflenwi yn y ffordd honno. Mae'n ymddangos, mewn gwirionedd, mai gweithredu cyfyngedig sydd yn y sector masnachol yn hyn o beth. Pa elfennau o'n llwyddiant sy’n ganlyniad i lwyddiant yn y sector masnachol, a beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod llai, yn gyntaf oll, ac yn bwysig iawn, yn y sector masnachol, o ddeunydd pecynnu diangen a gwastraff? Credaf ei bod braidd yn annheg, yn aml iawn, rhoi baich ar drethdalwyr domestig ac aelwydydd domestig, pan welwn mor glir nad yw llawer o gwmnïau, sy’n gweithredu, wrth gwrs, y tu allan i Gymru, yn ogystal, yn ystyried ein neges yma ynghylch lleihau ac ailddefnyddio.
Mae'n stori lwyddiant dda mai yng Nghymru y mae’r bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Mae'n stori lwyddiant ragorol ein bod yn ailgylchu mwy na gweddill y Deyrnas Unedig. Roeddem yn arfer gwneud yn well ar ynni adnewyddadwy hefyd, ond cwympo’n ôl a wnaethom wedyn. Rwyf yn gobeithio na fyddwn yn cwympo yn ôl yn hyn o beth, ac rwyf yn gobeithio yn eich ymateb heddiw, ac yn eich gwaith fel Ysgrifennydd newydd, y byddwch yn llwyddo i gyflawni eich nod o sicrhau economi ddiwastraff yng Nghymru.