Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ar yr un olaf, nid wyf yn mynd i gytuno i adolygu'r fformiwla cynaliadwyedd oherwydd ein bod yn credu ei fod yn gweithio yn eithriadol o dda ac yn un o'r rhesymau pam mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r Aelod wedi nodi yn gywir—ac rwy’n cofio’r llythyr yn dda iawn—y ceir penderfyniadau yn achlysurol nad ydynt yn unol â'r fformiwla ac, wrth adolygu hynny, mae gennym enghreifftiau lle dylai cwmnïau fod wedi cael caniatâd i gymryd ymgeisydd Twf Swyddi Cymru ac, yn wir, yn yr achos y mae'r Aelod yn ei amlinellu, roedd yr adolygiad yn llwyddiannus a chafodd y cwmni ganiatâd i fwrw ymlaen.
Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod yr adegau prin lle nad yw'r fformiwla wedi ei gymhwyso'n gywir yn y lle cyntaf yn rheswm da i adolygu'r fformiwla yn gyffredinol. Un o'r rhesymau pam mae'r cynllun wedi bod mor llwyddiannus—ac rydym yn edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol ohono a fydd yn dod i mewn yn fuan iawn; rwy’n gobeithio cyn toriad yr haf—yw bod yn rhaid i fusnesau ddangos y gallu i gadw pobl yn y swydd honno ac i dyfu eu hunain yn unol â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cymhorthdal cyflogau y mae cynllun Twf Swyddi Cymru yn ei gynrychioli. Nid drws troi i dderbyn mwy a mwy o bobl ifanc a rhoi cyflogaeth anghynaladwy iddynt yw hyn. Felly, rwy’n falch iawn â'r ffordd y mae'r cynllun yn gweithio; rwy'n edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol. Ond rwy’n derbyn, mewn rhai achosion, bod angen adolygu ac, fel y gwelsoch, rydym yn hapus iawn i wneud yr adolygiad hwnnw.
O ran merched mewn sectorau anhraddodiadol, bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn yn hoff bwnc i minnau hefyd; rwyf wedi siarad lawer gwaith yn y Siambr hon yn ei gylch. Yn wir, yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy’n ymweld â nifer o weithleoedd i siarad am hynny ochr yn ochr ag ICE, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, er enghraifft, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn y blaen. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod yn ariannu Chwarae Teg i wneud rhaglen ynghylch cael merched i mewn i ddiwydiannau anhraddodiadol a hyrwyddo hynny mewn busnesau lle ceir anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Ac, yn wir, mae gennym broblem debyg o ran iechyd a gofal cymdeithasol lle mae cydbwysedd rhwng y rhywiau y ffordd groes, a hoffem weld mwy o ddynion yn dod i mewn i rai meysydd o'r economi, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny yn agored i bawb.
O ran y pwynt pob oed, fel y clywodd yr Aelod pan wneuthum fy natganiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i gynllun prentisiaeth pob oed. Rydym yn cydnabod nad oedran yw'r unig reswm y dylech fynd ymlaen i gynllun prentisiaeth. Fodd bynnag, rydym yn dal i dargedu pobl 16 i 19 oed sy’n dod allan o'r ysgol i fynd i mewn i’r cynlluniau hynny ac mae gennym dargedau ar gyfer pobl sydd eisiau newid swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau edrych yn ofalus iawn ar gyflogwyr sydd eisiau rhoi gweithwyr presennol ar gynlluniau y maent yn eu galw yn brentisiaethau, fel y gallwn fod yn sicr, mewn gwirionedd, mai prentisiaethau ydynt ac nid ail-labelu cynllun hyfforddi sy'n bodoli eisoes . Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi pam yr ydym eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i'r gweithlu a chael pobl wedi’u hyfforddi'n briodol pan eu bod yn y gweithlu; nid yw'n ymwneud â labelu rhywbeth i gael bathodyn ar ei gyfer.
Rwy’n credu, o ran y cysylltiadau, bod yr hyn yr ydym yn sôn amdano o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ymwneud i raddau helaeth â dod ag addysg, cyflogwyr a chymunedau busnes ynghyd. Rydym hefyd yn rhedeg cynllun gyda chymorth a gefnogir gan fusnesau yn y gymuned. Rydym wedi cynnal cynllun arbrofol llwyddiannus iawn ar gyfer hynny i lawr yn Sir Gaerfyrddin—rwy'n gwybod bod rhai Aelodau yn gyfarwydd ag ef—ac rydym yn gobeithio cyflwyno hynny mewn mwy o ardaloedd o'r wlad mor gyflym ag y gallwn. Bwriad y cynllun hwnnw yw cael profiad gwaith o ansawdd da allan yna.
Rwyf am ymbil ar yr Aelod ac, yn wir, pawb arall sy'n bresennol yn y Siambr heddiw a dweud hyn: mae llawer o gyflogwyr yn dweud wrthyf— canran fawr iawn o gyflogwyr mewn gwirionedd, yn ôl arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, yn dweud—y byddent yn fwy parod i gymryd person ymlaen fel newydd-ddyfodiad i’w cwmni pe byddai ganddo brofiad gwaith da, ond mae nifer fawr iawn o bobl sy'n dweud hynny nad ydynt mewn gwirionedd yn darparu profiad gwaith. Felly, os oes gennych gwmnïau o'r fath yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau, rwy’n eich cymell i'w hannog i ymuno â'n cynlluniau profiad gwaith ac i roi'r profiad i ystod ehangach o bobl ifanc.