Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 14 Mehefin 2016.
Felly, bydd yr Aelod wedi clywed yn fy natganiad mai’r hyn yr wyf i’n siarad amdano yw annog darpariaeth prentisiaeth mewn meysydd prinder sgiliau yng Nghymru, fel y nodwyd trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ar gyfer y tri rhanbarth o Gymru lle mae gennym y partneriaethau ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Efallai fod yr Aelod wedi clywed fy atebion i Aelodau eraill am ein tristwch bod arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi ei atal gan Lywodraeth y DU. Rydym mewn sgwrs gyda'r gwledydd datganoledig eraill ynghylch pa un a allwn fwrw ymlaen â hynny ar ein pennau ein hunain, oherwydd roeddem yn defnyddio’r arolwg hwnnw i raddau helaeth i lunio ein darpariaeth, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflogi prentisiaid mewn ardaloedd lle gwyddom fod prinder sgiliau ac, felly, swyddi iddynt fynd iddynt ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Efallai fod yr Aelod hefyd wedi fy nghlywed yn crybwyll ein bod yn adolygu rhai o'n darpariaethau prentisiaid lefel 2 lle y gwyddom ein bod yn gor-ddarparu mewn rhai meysydd a'n bod eisiau annog y rhwydwaith o ddarparwyr i beidio â darparu nifer fawr iawn o brentisiaid lefel 2 mewn meysydd lle'r ydym yn gwybod bod gorddarpariaeth ac, yn hytrach, ailgyfeirio eu hymdrechion i feysydd lle'r ydym yn gwybod bod tanddarparu. Mae hynny hefyd yn golygu—oherwydd gwyddom fod tanddarparu yn bennaf yn y meysydd sgiliau uwch hynny—ein bod eisiau annog prentisiaethau, nid yn unig ar y lefel mynediad, lefel 2, neu bod arnom eisiau i’r rhai sy’n gadael yr ysgol fynd i mewn i’r rheini, ond rydym yn awyddus i gael system brentisiaeth bob oed sy'n annog pobl ar lefel 3, cyfwerth â lefel A, a lefel 4, gradd sylfaen ac uwch, i fynd i mewn i'r system brentisiaeth hefyd i lenwi'r prinder sgiliau lefel uwch y mae cyflogwyr yn adrodd amdano drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac, yn wir, mewn gwirionedd, hyd at eleni, drwy Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau Felly, mae gennym strategaeth ar gyfer hynny.
Hefyd, mae'n rhaid i brentis fod wedi ei gyflogi yn y lle cyntaf, yn amlwg, er mwyn bod yn brentis, ac mae nifer fawr o'r cynlluniau prentisiaeth ar y cyd sydd gennym yn ffyrdd o drefnu hynny drwy—. Er enghraifft, Blaenau Gwent—cynllun blaengar iawn lle mae'r cyngor yn gallu gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer nifer o brentisiaid a rennir ar gyfer busnesau bach a chanolig bychan iawn na fyddai fel arall yn gallu fforddio'r costau cyflogi. Felly, rydym yn edrych ar hynny yn fanwl iawn. Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac rydym yn parhau i edrych ar hynny drwy ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol.