Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i gymryd eiliad ar ddechrau'r pumed tymor hwn i ddweud 'diolch' wrth yr holl bobl sy'n gwirfoddoli yma yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw yn sicr. Mae traean o Gymry yn gwirfoddoli yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i feddwl am y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud i'n bywydau ac i'n cymunedau, ac i annog hyd yn oed mwy o bobl i wirfoddoli.
Eleni, bu dathliadau ledled Cymru, gan gynnwys gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn cenedlaethol yng nghastell Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, a hoffwn i ni gymryd eiliad i gydnabod ymroddiad a chyflawniadau dim ond rhai o'r enillwyr hynny. Mae Sue Osman, nyrs y newydd-anedig sydd wedi ymddeol, yn treulio ei hamser, ar ôl ymddeol, yn helpu teuluoedd plant sydd ag anableddau. Mae Sue yn gwirfoddoli yng nghanolfan plant Casnewydd i helpu teuluoedd a phlant yn ystod rhai o'r adegau anoddaf y maent erioed wedi eu hwynebu. Mae pobl yn defnyddio geiriau fel 'ysbrydoledig' a 'braint' pan fyddant yn siarad am weithio gyda hi.
Mae grŵp o bobl ifanc, sy’n gweithredu fel cenhadon treftadaeth y byd, yn gweithio i hyrwyddo tref treftadaeth y byd Blaenafon, ac yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i arwain yn y gymuned. Mae Imogen, merch ifanc o Drefynwy, yn gwirfoddoli yng nghlwb ieuenctid cynhwysol Caerwent. Mae Imogen yn helpu pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth. Mae cydweithwyr Imogen yn dweud ei bod hi'n gennad gwirioneddol o ran ymroddiad, cymhwysedd a pharodrwydd i helpu gwirfoddolwyr ifanc eraill â'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae Valerie o Gaerdydd wedi bod yn allweddol, fel aelod o Ymddiriedolaeth Llys Insole, wrth achub adeilad hanesyddol, Llys Insole, er budd y cyhoedd. Unigolyn arall allweddol yw Michael Baker o Bontypridd sy’n cael ei ddisgrifio fel un o'r gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig yn y gwaith o gynnal y prosiect ‘Too Good To Waste’. Mae Michael wedi goresgyn anawsterau gwirioneddol i helpu eraill mewn prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella'r amgylchedd drwy ailgylchu. Ers mis Ionawr 2010, mae Michael ei hun wedi gwirfoddoli am y nifer anhygoel o fwy na 7,500 o oriau.
Mae nifer di-ri o sefydliadau yn werthfawrogol o gyfraniad eu gwirfoddolwyr. Yn ogystal â'r gwobrau cenedlaethol, cymerodd nifer fawr o enwogion lleol ran yr wythnos diwethaf. Er enghraifft, cynhaliodd Groundwork Gogledd Cymru ddigwyddiad gwirfoddolwyr i ddweud ‘diolch’ am yr holl gymorth a’r gwaith caled a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fel y soniais, mae oddeutu traean o'n dinasyddion yn gwirfoddoli—mae hynny'n bron i filiwn o bobl yn gwirfoddoli bob blwyddyn, yma yng Nghymru. Mae'n anodd bod yn fanwl gywir gan fod cymaint o weithredu gwirfoddol yn cael ei wneud gan bobl nad ydynt hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn gwirfoddoli. Serch hynny, mae hwn yn ffigwr y dylem ei glodfori. I ddefnyddio cymhariaeth o fyd chwaraeon i ddangos y rhifau, ac rwyf yn gwybod efallai y bydd fy nghydweithwyr yn y gogledd yn ei gwerthfawrogi, gallech lenwi Stadiwm Glannau Dyfrdwy 624 o weithiau a mwy gyda nifer y gwirfoddolwyr a gofnodir bob blwyddyn—presenoldeb y byddai fy nhîm lleol, y Crwydriaid, yn falch iawn o’i gael, rwy'n siŵr. Ond bu gan Gymru, wrth gwrs, ysbryd cymunedol cryf erioed. Mewn sawl ffordd, mae hyn yn ffurfio cymeriad ein cenedl, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin a manteisio ar yr elfen gyfoethog hon o ysbryd cymunedol.
Lywydd, hoffwn gydnabod y gwerth y mae gwirfoddoli yn ei gyfrannu at ein heconomi a'n cymdeithas, a hefyd yr unigolion dirifedi hynny sydd, bob dydd, yn darparu cymorth hanfodol i aelodau o'r teulu, cymdogion a ffrindiau sydd mewn angen. Mae’n anoddach fyth pennu rhif pendant ar gyfer hyn nag ydyw i gyfrifo union nifer y gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, gallwn ddychmygu’r straen ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus pe na byddai’r amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol ac elusennau yno ar y rheng flaen, y mae pob un ohonom yn eu gweld.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymrwymedig i annog a chefnogi gwirfoddolwyr. Ailddatganwyd yr ymrwymiad hwn y llynedd yn ein polisi gwirfoddoli, 'Cefnogi Cymunedau, Newid Bywydau'. Mae Llywodraeth Cymru yn glynu wrth yr egwyddorion a nodir yn y ddogfen honno, sy'n cadarnhau ein bod eisoes yn gwneud y pethau iawn. Er enghraifft, cefnogi gwirfoddolwyr newydd drwy ddyfarnu grantiau—ac eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dros £5 miliwn i gefnogi grantiau gwirfoddoli a chynghorau gwirfoddol sirol. Trefnwyd dros 8,000 o leoliadau gwirfoddoli y llynedd, gyda chyllid ar gyfer 417 o bobl ifanc yn derbyn 200 awr o dystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm—gan alluogi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnal cronfa ddata o dros 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli, a hyfforddi pobl i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar wirfoddolwyr. Y llynedd, cyfrannodd ein cyllid at hyfforddi 5,000 o ymddiriedolwyr.
Ceir camau gweithredu newydd sydd i’w datblygu hefyd. Rwyf am grybwyll dim ond rhai ohonynt heddiw. Gall gwirfoddoli hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae angen gwell gwybodaeth arnom ynglŷn â’r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag gwirfoddoli—yn enwedig y rhai hynny sydd ag anghenion cymorth uwch. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall y rhwystrau hyn yn well ac i fynd i'r afael â nhw. Mewn rhai amgylchiadau, gall gwirfoddoli fod yn llwybr i gyflogaeth. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn helpu gwirfoddolwyr i ddangos y sgiliau y maent wedi eu datblygu a byddwn yn nodi ffordd addas ar gyfer gwneud hynny hefyd.
Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y cyllid yr ydym yn ei fuddsoddi i gefnogi gwirfoddolwyr yn darparu'r gwerth gorau am arian. Byddwn yn sicrhau bod cynigion gwirfoddoli presennol yn symlach, gan wneud dysgu mwy drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu’r rhyngrwyd neu fynd i’r ganolfan wirfoddoli lleol yn syml, yn effeithiol ac yn hygyrch. Mae gan gyflogwyr hefyd swyddogaeth wrth annog gwirfoddoli. Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol y rhoddir hyd at bum diwrnod y flwyddyn i weision sifil yn Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau gwirfoddol, gan rannu eu harbenigedd â chymunedau a mudiadau gwirfoddol. Mae gweision sifil yn cael eu hannog i ddefnyddio gwirfoddoli fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a chyflwyno Llywodraeth Cymru i gymunedau, ac i ddysgu eu hunain, o brofiad y rhaglenni. Gall hyn fod yn rhywbeth yr hoffech ystyried ei wneud eich hun—neu eich aelodau staff eich hun, fel Aelodau a chydweithwyr. Mae cymorth ar gael ar wefan gwirfoddolicymru.net, lle y ceir mwy na 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli.