Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 14 Mehefin 2016.
Yn gyntaf oll, diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau a’i chyfraniad heddiw. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod o ran cefnogi gwirfoddolwyr ledled Cymru a'r DU. Yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ddau o’m ffrindiau da, Leanne a Bernie Attridge, a oedd yn gosod y rhwydi yn y clwb pêl-droed lleol boed law neu hindda, a hebddynt ni fyddai'r gêm yn dechrau. Felly, diolch yn fawr iawn i bobl yn union fel nhw. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, ni waeth beth maent yn ei wneud, y ceir gweithredoedd sy'n helpu ysbryd ac agosatrwydd cymunedol.
Byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y mater o gosbau. Rwy'n credu bod gwirfoddoli yn rhoi cyfle i lawer o bobl sydd wedi eu heithrio yn gymdeithasol. Mewn gwirionedd; mae'n aml yn gyfle i bobl ddod yn rhan o’r gymuned unwaith eto, ac rwy’n credu y byddai’n rhywbeth y byddwn i’n bryderus iawn yn ei gylch pe byddai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau farn negyddol ar hynny. Byddaf yn rhoi sylw i hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn dilyn y sgwrs honno.
Ni allaf warantu—gwn fod yr Aelod wedi gofyn ac mae hynny'n briodol, ac mae hi wedi bod yn lobïo—ni allaf warantu unrhyw gyllid hirdymor ar gyfer rheolwyr mewn swyddi mewn unrhyw le ar draws fy adran. Y gwirionedd yw bod cyllid yn heriol iawn. Ond yr hyn yr wyf yn ei gydnabod yw'r gwaith y mae rheolwyr a sefydliadau yn ei wneud o ran sicrhau mwy o gyfle am hyfforddiant a chymorth i wirfoddolwyr ar lawr gwlad. Felly, rwy’n cydymdeimlo, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu, ond ni allaf addo cyllid hirdymor i’r Aelod yn y modd hwnnw.
Ni ddylai gwirfoddoli fod yn ddewis amgen i wasanaethau cyhoeddus, ond mae cydbwysedd o ran ei phwynt arall ynglŷn â throsglwyddo asedau hefyd. Yr hyn yr hoffwn weld mwy ohono yw partneriaeth y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol, a sut y gallwn weithiau sicrhau rhai asedau gwych yn ein cymunedau, megis pyllau nofio. Rwyf yn gwybod ein bod wedi gweld grwpiau cymunedol yn cymryd rheolaeth dros byllau nofio sy'n eiddo cyhoeddus yn eu cymuned, ac maent yn gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth hefyd, sefydliadau dielw. Ond mae hyn yn ymwneud â galluogi, gan wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu i gefnogi pobl sydd â'r ewyllys i wneud hyn ac sy’n awyddus i'w wneud. Sut y gallwn ni fel Llywodraeth a sefydliadau eu helpu i gael yr hyder i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau? Mae gennym gymaint o wirfoddolwyr, yn hen ac ifanc, ac mae’r brwdfrydedd y mae ein gwirfoddolwyr ifanc yn ei roi i gymunedau wedi creu argraff fawr arnaf. Rwyf wedi gweld rhai prosiectau gwych eisoes mewn amser byr iawn yn y portffolio hwn ar hyn o bryd, ond yn fy swydd flaenorol, pan oeddwn yn gyfrifol am wirfoddolwyr o'r blaen, gwelais rai prosiectau gwych ac anhygoel lle'r oedd pobl ifanc yn rhyngweithio â phobl hŷn, ac rwy'n credu ei fod yn cael gwared ar rai o rwystrau arwyddocaol—gellir diddymu’r pryder personol rhwng y ddau grŵp drwy eistedd gyda phaned o de a siarad am bethau gyda'i gilydd. Felly, rwyf wirioneddol yn diolch i'r gwirfoddolwyr ledled Cymru ac yn diolch i chi am eich cyfraniad.