Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr i chi. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Huw. Mae eich Cymraeg yn rhagorol o’i gymharu â’m Cymraeg i, os caf i ddweud?
Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw beth yr ydych wedi'i ddweud y gallaf anghytuno ag ef. Rwy'n credu eich bod yn ymwneud â llawer o'r gweithgareddau cymunedol yn yr ardal yr ydych yn ei chynrychioli. Rwyf yn gyfarwydd â rhai o'r sefydliadau hynny ac mae'n wir i ddweud hefyd fod rhai cwmnïau yn mynd ati i geisio ymgysylltu â'u gweithwyr, yn eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn dod â mwy yn ôl i’r cwmni hefyd. Nid yw yn eich etholaeth chi, ond roeddwn gyda gwirfoddolwyr o GE ddoe, ac roedd Jo Foster yn arwain tîm o wirfoddolwyr o amgylch y lle. Mae llawer o sefydliadau eraill sy'n gwneud hynny.
Rwy'n credu mai beth y mae hyn yn ei ddweud yw—ac rwyf yn credu eich bod wedi cyfeirio at hyn—nid yn unig y mae gwirfoddoli yn brofiad cadarnhaol ar gyfer ein cymunedau ond, mewn gwirionedd, gwirfoddoli yw craidd ein hysbryd Cymreig cymunedol. Mae’n ein diffinio ni. Rwy’n credu bod modd i ni roi, ac nid wyf yn sôn am arian, yn hytrach rwy’n sôn am ryngweithio cymdeithasol. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir: dylem ddathlu cyfraniad y gwirfoddolwyr yn eich cymuned ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru.