Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymwybodol o fater hirsefydlog yn fy etholaeth ynghylch ffordd osgoi arfaethedig yn ardal Llanymynech a Phant, a bûm yn gohebu o’r blaen gyda’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, ynglŷn â hyn. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Andrew Jones, Gweinidog dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn Llanymynech, gyda chynrychiolwyr ar ran y gymuned. Yn sicr, mynegodd barodrwydd i gyfarfod â chi i drafod y prosiect penodol hwn. A fyddech yn cytuno i gael y cyfarfod hwnnw, a hefyd a fyddech yn cytuno i ddarparu rhywfaint o wybodaeth am y cynnydd a wnaed ar y cynllun penodol?