Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 15 Mehefin 2016.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i longyfarch hefyd ar ei benodiad? Yn wir, a gaf fi longyfarch y ddau Aelod arall o Blaid Cymru sydd wedi’u penodi i fy nghysgodi? Mae cael tri chysgod yn gwneud i mi deimlo fel dyn â nod ar ei dalcen, mae’n rhaid i mi ddweud.
O ran y cwestiynau penodol y mae’r Aelod yn eu crybwyll, byddwn yn datblygu strategaeth economaidd newydd a byddwn yn gobeithio y byddech yn gallu cyfrannu ati, a byddwn yn adolygu’r targedau hynny. Ceir llawer o ddangosyddion llwyddiant economaidd o bwys a gadewch i ni ei wynebu, mae lefelau cyflogaeth bellach yn uwch nag erioed yng Nghymru. Mae diweithdra yn gostwng yn gyflymach yma nag yng ngweddill y DU. Os edrychwch ar y ffigurau ar gyfer twristiaeth hefyd, fe welwch ein bod hefyd yn llwyddo’n well nag erioed ar fewnforion, ar allforion ac ar fewnfuddsoddiad—mae Cymru’n perfformio’n well heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ystod datganoli.