Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 15 Mehefin 2016.
Plaid Cymru sydd am fynd yn ôl i’r 1980au i greu Awdurdod Datblygu Cymru a dychwelyd i nefoedd y cwangos: na, mae’n well gennym ni atebolrwydd yn Llywodraeth Cymru. O ran allforion, un ffactor arall sy’n werth ei chofio yw ein bod wedi gweld rhai categorïau yn esgyn i’r entrychion yn ddiweddar—gwelsom gynnydd o 30 y cant mewn allforion peiriannau wedi’u harbenigo ar gyfer diwydiannau penodol, gwelsom gynnydd o 21 y cant mewn cerbydau ffordd, gwelsom gynnydd o 46 y cant mewn allforion i Qatar. Dyna pam—[Torri ar draws.] Efallai y byddant yn ei ddeall. Dyna pam y mae pobl—[Torri ar draws.] Gadewch i ni obeithio eu bod yn deall hyn: mae prisiau nwyddau wedi gostwng. Mae gwerth cynhyrchion petrolewm hefyd wedi achosi i allforion yn y DU, ac allforion mewn llefydd eraill hefyd, i ostwng yn eu gwerth. Dyna’r gwir amdani. Dyna’r realiti o amgylch y byd. Ni fydd sefydlu cwango arall yn datrys problem prisiau nwyddau neu brisiau petrolewm.