Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Mehefin 2016.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i longyfarch ar ei benodiad hefyd? Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod gennym economi gryfach, fwy diogel yng Nghymru. Mae’r sector modurol yn sector hollbwysig ledled Cymru. Yn benodol, o ran twristiaeth, mae’n cyfrannu’n aruthrol at lwyddiant ein portffolio digwyddiadau mawr, sydd, yn ei dro, yn denu 800,000 o bobl i Gymru bob blwyddyn ac yn cynhyrchu tua £125 miliwn o ran ei effaith economaidd.