Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod hwnnw’n ymateb calonogol, felly efallai y byddai’n amserol pe gallem gael datganiad dros yr wythnosau nesaf, wrth i’r trafodaethau ddod i ben mewn ffordd bositif fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei awgrymu ac efallai, ar ryw adeg, y byddai’n barod i ymweld ag un o’r camau yn y canolbarth gyda mi hefyd—efallai y gallem gael ras yn erbyn ein gilydd; nid wyf yn gwybod.
Gan aros ar thema twristiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n deall bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adolygu’r opsiynau ar gyfer sut y darperir gwasanaethau yng nghanolfan ymwelwyr y parc cenedlaethol yn ddiweddar. Nawr, ymhlith y newidiadau, mae wedi argymell cau elfen ddarparu gwybodaeth a manwerthu’r ganolfan, a chreu man gwybodaeth heb staff yn ei le. Weinidog, hoffwn ofyn i chi gyflwyno sylwadau i awdurdod y parc cenedlaethol yn ailystyried y penderfyniad hwn ar frys, gan fy mod yn sicr yn credu y byddai’n niweidio twristiaeth, nid yn unig yn yr ardal, ond yn economi ehangach canolbarth Cymru.