<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:52, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf eisoes wedi cael y cyfle i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad, ond ni allwch gael gormod o beth da, felly fe’i llongyfarchaf eto heddiw a mynegi gobaith, dan ei arweiniad, y bydd economi Cymru wir yn gwisgo’i ‘skates’—bwm, bwm. [Chwerthin.] Yn ôl y polau piniwn, mae’n edrych yn debyg iawn y bydd Prydain yn pleidleisio dros adael yr UE yr wythnos nesaf, a thybed felly a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y bydd yn gwario difidend Prydain yn gadael y DU a ddaw i Gymru yn sgil y digwyddiad hwnnw. Oherwydd, gan gymryd un mesur yn unig o gyfraniad net Prydain i’r UE—dyna’r arian a rown i Frwsel i’w wario yn rhywle arall yn yr UE sef £10 biliwn y flwyddyn ar sail cyfrifiad fesul y pen o’r boblogaeth—mae hynny oddeutu £500 miliwn y flwyddyn a fydd yn dod i Gymru a Llywodraeth Cymru i’w wario. Byddai’n ddiddorol gwybod a oes ganddo unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gallwn wario rhan o’r arian hwnnw hyd yn oed.