<p>Gwelliannau i’r Rhwydwaith Ffyrdd yn Arfon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:59, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud mai’r bwriad gwreiddiol yn wir oedd cyhoeddi gorchmynion drafft yn ystod y gwanwyn eleni, ond oherwydd y trafodaethau parhaus a grybwyllodd yr Aelod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â mesurau lliniaru amgylcheddol, mae’r dyddiad cyhoeddi yn awr wedi’i gynllunio ar gyfer mis Awst, yn amodol ar fy nghymeradwyaeth? Ond gallaf sicrhau y byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod ynglŷn â datblygiadau ac yn symud mor gyflym ag y bo modd.