Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Er mwyn i fusnesau barhau’n rhai hirdymor a chynaliadwy, mae angen iddynt adeiladu cysylltiadau cadarnhaol â’i gilydd. Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru, yn fy etholaeth, yn ganolfan arloesi rhwng cymheiriaid ar gyfer menter, lle y ceir llwyth o fusnesau yno i gefnogi ei gilydd. Yn wir, heddiw, roedd gan gapten arloesi, ac arweinydd Canolfan Arloesi Menter Cymru, erthygl yn y Western Mail o dan y pennawd ‘Everyone’s talent needed to secure future of Wales’; Gareth Jones yw hwnnw. Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru yn gwneud cyfraniad gwerth ychwanegol gros net i’r economi o £13.8 miliwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet longyfarch Canolfan Arloesi Menter Cymru ar y llwyddiant y maent wedi’i gael, a meddwl hefyd sut y gallwn feithrin y cysylltiadau busnes hyn, yng Nghaerffili ac wrth gwrs, ymhellach i ffwrdd yn yr ardal ehangach, i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol?