Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd. Mae’n bosibl mai ardrethi busnes yw un o’r costau mwyaf i gwmni ar ôl cyflogau a rhent. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhybuddio y gallai manwerthwyr Cymru wynebu’r cynnydd serthaf mewn ardrethi busnes yn y Deyrnas Unedig o’r flwyddyn nesaf ymlaen, yn sgil ailbrisio eiddo. A yw’r Gweinidog yn cytuno ei bod hi’n bryd cael adolygiad radical o ardrethi busnes, er mwyn gwneud y system yn deg, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac yn fwy cysylltiedig â gallu cwmni i dalu yng Nghymru?