<p>Gwella Iechyd a Llesiant Pobl Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:18, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae rhan chwaraeon yn gwella iechyd y cyhoedd yn wirioneddol werthfawr, ond mae’n ymddangos nad yw un sector o’n cymdeithas yn cymryd rhan i’r un graddau â’r rhan arall, sef dynion yn erbyn menywod—. Mewn arolwg cenedlaethol, dangoswyd bod 100,000 yn llai o fenywod na dynion yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafwyd ymgyrch weithredol ar draws y DU o’r enw This Girl Can i godi lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon drwy symud y tu hwnt i rai o’r modelau ystrydebol o bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a dangos bod chwaraeon i bawb mewn gwirionedd. A oes gan Lywodraeth Cymru safbwynt ar yr ymgyrch benodol hon ac yn wir, a yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i lunio camau gweithredu mewn perthynas â’r ymgyrch fel y gallwn gyrraedd pob cymuned a dangos nad yw chwaraeon yn weithgaredd ar gyfer math penodol o unigolyn—ei fod i bawb?