Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 15 Mehefin 2016.
Rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd weithio gyda’u partneriaid i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau gofal brys pan fyddant eu hangen. Mae’r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn gyrru dull gweithredu ar sail system gyfan i hwyluso newid cynaliadwy a gwella gwasanaethau iechyd a gofal heb ei drefnu ar draws Cymru.