Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 15 Mehefin 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cysylltiad rhwng heriau damweiniau ac achosion brys a’r cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion wedi’i hen sefydlu. Gwelsom yr argyfwng sydd wedi digwydd o ran niferoedd derbyniadau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr oherwydd toriad o 8 y cant mewn termau real yn y cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna gymorth digonol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru er mwyn atal y problemau sydd wedi achosi argyfwng yn Lloegr rhag digwydd yng Nghymru?