Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch. Rydym yn bwriadu adeiladu ar ein llwyddiant hyd yn hyn gyda’r bwrdd strategol rheoli tybaco newydd a sefydlwyd i oruchwylio’r camau nesaf. Mae gennym dri is-grŵp penodol sy’n edrych ar yr arferion gorau o ran atal smygu, rhoi’r gorau i smygu a dadnormaleiddio patrymau ymddygiad sy’n ymwneud â smygu hefyd, i’w wneud yn arbennig o anatyniadol i bobl ifanc. Hefyd, mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen ar wahân sy’n edrych ar ffyrdd o leihau’r galw am dybaco anghyfreithlon, a bydd yr is-grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i ddarparu argymhellion ar gyfer cynllun cyflawni ar reoli tybaco ar ei newydd wedd i fynd â ni ar hyd y camau nesaf hynny tuag at 2020. Ac wrth gwrs, mae’r dull hwn o weithredu yn mynd ochr yn ochr â’r holl waith sy’n digwydd gyda’n gilydd ar lefel y DU, fel pecynnu safonol i sicrhau dull cydlynol a chynhwysfawr o reoli tybaco yng Nghymru.