Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 15 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Cyn inni ddechrau ar y ddadl yma, rydw i eisiau atgoffa Aelodau am fy nisgwyliadau o ran ymddygiad yn y Siambr. Mae hwn yn bwnc lle mae barn gryf ar y ddwy ochr, a hynny ar fater sy’n amserol iawn. Dylai hynny olygu ein bod yn cael dadl nawr sy’n ddiddorol, yn ddifyr ac yn angerddol. Ond nid yw hynny’n esgus dros heclo neu siarad dros siaradwyr neu unrhyw fath o ymddygiad a fyddai’n amharu ar urddas y lle yma. Rydw i hefyd eisiau atgoffa Aelodau, o ystyried lefel y diddordeb yn y ddadl a’r pwnc yma, fy mod i am alw cynifer o Aelodau â phosibl. Byddaf felly’n cyfyngu’r siaradwyr i dri munud yr un, ac eithrio’r rhai sy’n agor a chau’r ddadl, a’r Gweinidog sy’n ymateb. Gan mai dadl Aelodau unigol yw hon, byddaf hefyd yn ymdrechu i sicrhau adlewyrchiad teg o’r ddau safbwynt wrth alw Aelodau, yn hytrach na’r cydbwysedd pleidiol, fel y byddwn yn arfer. Felly, rydw i’n galw, i wneud y cynnig, Eluned Morgan.