5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:34, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn wir, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad, a phobl sy’n byw yn y gorffennol yw’r rhai sy’n gadael, nid y rhai sy’n aros. Rwyf yn y sefyllfa ryfedd heddiw o gytuno â George Osborne, sy’n dweud, os ydych yn gyfoethog ac nad ydych yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yna gallwch fforddio chwarae gyda’r syniad o rygnu ymlaen am oes a fu, pan oedd Prydain yn rheoli’r tonnau, a’r haul byth yn machlud ar yr ymerodraeth Brydeinig. Oherwydd dyna’r cyfeiriad y mae’r rhai sydd am adael yn awyddus i fynd â ni. Maent yn awyddus i fynd â ni yn ôl mewn capsiwl amser. Fe gofiwch 60 mlynedd yn ôl, a dyddiau budr y 1950au, pan oedd niwl cawl pys mor drwchus fel na allech weld eich drws ffrynt eich hun hyd yn oed? Ie, Deddf Aer Glân 1956 a ddechreuodd y glanhau, ond bellach cyfarwyddeb ansawdd aer 2008 sy’n mynd i ddwyn Boris Johnson i gyfrif am fod wedi ffidlan y ffigurau ar lygredd aer yn y brifddinas.

Hanner can mlynedd yn ôl—gadewch i ni fynd yn ôl 50 mlynedd at drychineb Aberfan. Amhosibl heddiw, o ganlyniad i gyfarwyddeb rheoli gwastraff y diwydiannau echdynnol 2006, sydd mewn gwirionedd yn dyfynnu trychineb Aberfan fel un o’r pethau sy’n sail iddi. Gadewch i ni fynd yn ôl 40 mlynedd, pan oedd ein traethau yn llawn o garthion amrwd, a heddiw, ers cyfarwyddeb dŵr ymdrochi 1976, mae gennym bellach draethau glân, a llawer iawn ohonynt yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt.

Y bobl sy’n torri eu boliau eisiau gadael yr UE yw’r llygrwyr diwydiannol, y bobl sy’n osgoi talu trethi, y llygrwyr bwyd, y cyflogwyr anghyfrifol ac ecsbloetiol. Nodaf fod llynges yr ymgyrch dros adael ar afon Tafwys yn cynnwys treill-long bysgota o’r enw Christina S, a oedd yn euog o dwyll pysgota gwerth £63 miliwn yn yr Alban. Dyma’r math o bobl sydd am i ni adael, ac yn anffodus, mewn sgwrs a gefais y diwrnod o’r blaen gydag uwch was sifil, dywedodd wrthyf yn breifat, pe baem yn pleidleisio dros adael, gallwn droi’r wlad hon yn hafan treth, fel y gallwn ddenu’r holl arian amheus o bob cwr o’r byd. Yn ddigon dychrynllyd, nid wyf yn meddwl ei fod yn cellwair; hyd yn oed yn fwy dychrynllyd, barnwr wedi ymddeol ydoedd. Cyferbynnwch ef a’r holl bobl farus, hunanol eraill ar frig y sefydliad nad ydynt byth angen defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, ar wahân i gasgliadau bin, â phobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn Prydain lawn caledi, sydd rywsut yn meddwl, yn gamarweiniol, y bydd pleidleisio dros adael yn lleddfu eu dioddefaint. Er enghraifft, y person graddedig di-waith y siaradais ag ef neithiwr, sy’n bwriadu pleidleisio dros adael—yn drasig, mae’n credu y bydd ei sefyllfa’n gwella er mai’r gwrthwyneb sy’n wir mewn gwirionedd; hefyd y bobl yn fy etholaeth ar gontractau dim oriau y rhewyd eu cyflogau dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, ac sy’n ofni y bydd mwy o fewnfudwyr yn arwain at gyflogau is byth; y pensiynwr sy’n credu y bydd ei wyron, drwy adael Ewrop, yn cael tŷ, yn wahanol i nawr. Dadl dros adeiladu mwy o dai yw hon, nid dros adael yr UE. Mae’r garfan dros adael wedi colli’r holl ddadleuon economaidd, nes eu bod bellach yn defnyddio bwgan truenus mewnfudo i bedlera eu gwenwyn. Mae hyn yn wirioneddol—