Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 15 Mehefin 2016.
Rwyf eisiau dweud ychydig eiriau am y farchnad sengl, gan fy mod yn credu ei bod yn gyflawniad Prydeinig hynod ac yn rhywbeth sy’n parhau i gynnig cyfleoedd gwych i Gymru, a hyd yn oed yn fwy wrth iddi ehangu mwy i gynnwys gwasanaethau, ar ôl bod yn seiliedig ar nwyddau i ddechrau. Clywsom lawer o sôn ynglŷn â sut y bydd pethau bron yr un fath rywsut pe baem yn gadael, ond y bydd gennym lawer mwy o reolaeth dros yr adnoddau a thros ein democratiaeth. Wel, bydd pethau’n newid, neu fel arall prin ei bod yn werth gadael. Nid wyf yn credu y bydd y marchnadoedd yn ymateb yn bwyllog i benderfyniad y maent yn dweud wrthym fel mater o drefn y byddai’n niweidiol i economi Prydain, ac felly, i economi Cymru. Bydd rhywbeth yn digwydd i’r bunt, ac mae bron bawb yn dweud y bydd yn disgyn. Yn wir, mae rhai pobl sy’n ffafrio gadael yn croesawu hynny am y byddai’n gwneud ein hallforion yn rhatach. Ond rhaid wynebu’r ffeithiau hyn. Byddant yn cael effaith enfawr ar economi Prydain, ac economi Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Ac rydym yn clywed gan rai—roedd awgrym ohono yn yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton—y bydd y farchnad sengl yn dal i fod yno i ni fanteisio arni. Wel, beth bynnag arall sy’n digwydd, ni fydd ein mynediad iddi mor broffidiol ag y mae heddiw. Mae’r farchnad sengl hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i Lundain, a phe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, effeithir ar ddyfodol Llundain, fel y ddinas fyd-eang gyntaf a’r fwyaf blaenllaw o hyd, a chredaf fod angen i economi de Cymru ddenu mwy a mwy o adnoddau o Lundain orboblog, a Llundain sy’n ehangu, wrth i ni weld ein gwasanaethau ein hunain yn cael eu cryfhau, yn enwedig yn y byd proffesiynol, a byddai hynny i gyd yn cael ei beryglu a byddai potensial Caerdydd, a’r ardal o amgylch Caerdydd, fel magnet economaidd yn llawer llawer gwanach.
Dyfeisiwyd y farchnad sengl yn y 1980au gan Lywodraeth Thatcher. Rwy’n meddwl efallai mai dyma ran o’r broblem euogrwydd sydd gan rai Ceidwadwyr—ei fod yn gweithio: trawsnewidiodd Ewrop am ein bod wedi gwthio’r egwyddor o bleidleisio mwyafrifol. Roedd yn syniad gan y Ceidwadwyr i gael Ewrop i symud, a bois bach, nid yn unig fe lwyddodd i gael Ewrop i symud, aeth ati wedyn i amsugno dwyrain Ewrop i mewn i’r Undeb Ewropeaidd presennol. Beth fyddai wedi digwydd pe bai dwyrain Ewrop wedi dod yn rhes o wladwriaethau aflwyddiannus, fel rydym yn ei weld yn awr o amgylch y Maghreb a’r dwyrain canol? Pa fath o fyd y byddem yn byw ynddo pe bai hynny wedi digwydd?
Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig yn y farchnad sengl, ond hefyd o ran ehangu a dylem ddiolch ein bod yn byw mewn byd mwy diogel o ganlyniad, beth bynnag fo’r heriau, ac rydym yn wynebu heriau. Ond a dweud y gwir, mae wynebu eich heriau heb eich cymdogion, yn fy marn i, yn strategaeth ddi-hid iawn yn wir. Hefyd, mae dweud eich bod am fod yn agored i’r byd, ond fel eich cam cyntaf tuag at fod yn agored, eich bod yn troi eich cefn ar eich cymdogion, yn wrthddywediad pendant ac rwy’n gobeithio y bydd yr etholwyr yn gweld drwy hynny wythnos i yfory.