Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau hynny sydd wedi cyflwyno’r ddadl bwysig hon ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma? Fy ngwaith i yw gosod safbwynt Llywodraeth Cymru, ac mae’r safbwynt hwnnw’n gwbl glir. Mae parhau ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i’n dyfodol yn ei holl ddimensiynau sylfaenol.
Nawr, clywsom gyfres o gyfraniadau y prynhawn yma yn nodi’r union achos hwnnw ym maes cyfiawnder troseddol, gwarchod yr amgylchedd, diogelwch bwyd, hawliau cyflogaeth a diogelwch rhag gwahaniaethu. Rwyf am ddechrau drwy ein hatgoffa am yr achos diwylliannol: mae Cymru’n genedl Ewropeaidd. Mae’r ffaith fod dwy iaith yn cael eu defnyddio’n ddyddiol yng Nghymru yn ein gosod yn gadarn yn y brif ffrwd Ewropeaidd. Mae’r ffaith ein bod yn Gymry yn golygu ein bod yn gyfforddus gyda hunaniaethau lluosog. ‘O ble rwyt ti’n dod?’—y cwestiwn cyntaf a ofynnwn i’n gilydd. Rydym yn deall y gall yr ateb fod yn dref neu’n bentref, yn wlad neu’n wir, yn gyfandir rydym yn perthyn iddynt. Rydym yn deall y gallwn berthyn i fwy nag un lle ar yr un pryd.
Yn ogystal â’r cysylltiadau diwylliannol hynny, fel y clywsom, mae’r Undeb Ewropeaidd yn sicrhau manteision i ni sy’n gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol. Yn gymdeithasol, rydym ni ar yr ochr hon yn credu mewn Ewrop o undod, Ewrop o hawliau wedi’u diogelu a’u hymestyn i bobl sy’n gweithio ac amddiffyniad cryf i bobl sy’n agored i niwed yn y gymdeithas. Clywsom gan Dawn Bowden ac eraill am y ffordd ymarferol y mae’r hawliau cymdeithasol hynny’n gadael eu hôl ar fywydau pobl sy’n gweithio yma yng Nghymru.
Yn economaidd, fel y mae llawer o bobl yn y ddadl hon wedi’i ddweud, mae’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i ni yng Nghymru—mewn amaethyddiaeth, mewn diwydiant, mewn buddsoddiad strwythurol, mewn ymchwil prifysgol. Dechreuodd Eluned Morgan drwy eu hamlinellu i gyd, ac aeth eraill, megis Huw Irranca-Davies, ymlaen i osod y manteision economaidd ymarferol hynny yn uniongyrchol yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli.
Mae’r cyllid uniongyrchol i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd yn werth mwy na £500 miliwn bob blwyddyn. Mae gan dros 500 o gwmnïau o wledydd Ewropeaidd eraill weithrediadau yma yng Nghymru, ac mae’r gweithrediadau hynny’n darparu mwy na 57,000 o swyddi. Byddai pleidlais i adael yr UE yn anochel yn achosi pryderon mawr ynghylch y math hwnnw o fuddsoddiad rhyngwladol. Nonsens llwyr yw awgrymu na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio dim ar economi Cymru. Fe fyddai. Byddai’n dechrau digwydd y diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o’r fath, a byddai’r effaith yn niweidiol iawn.
Ond Lywydd, efallai mai yn wleidyddol—a fforwm gwleidyddol yw hwn, wedi’r cyfan—y gwneir yr achos mwyaf pwerus dros yr Undeb Ewropeaidd. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn hynod o ffodus o fod wedi byw am dros 70 mlynedd heb ryfel rhwng gwledydd Ewrop. Yn union fel y clywsom gan Eluned ar y dechrau, rwy’n meddwl am fy nheulu fy hun. Roedd fy nau daid yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Yn blentyn yn yr ysgol gynradd, rwy’n cofio’n glir cael clywed gan lygad-dystion a welodd Abertawe’n llosgi o Gaerfyrddin, 30 milltir i ffwrdd. Pan glywais y stori honno roedd llai o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau ofnadwy hynny nag a aeth heibio ers agor y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf. Mae’r syniad fod gwrthdaro yn perthyn i’r gorffennol pell, fod 70 mlynedd o heddwch rywsut yn fwy nodweddiadol na 1,000 o flynyddoedd o ryfela, yn mynd yn groes i hanes. Sefydlwyd Cymuned Glo a Dur Ewrop, rhagflaenydd yr undeb heddiw, yn 1951 yn benodol i sicrhau na fyddai gïau rhyfel, fel y’u gelwid—glo a dur—byth eto’n cael eu defnyddio ar gyfer rhyfeloedd rhwng cymdogion Ewropeaidd. Ewrop heddiw, gyda’i sicrwydd o werthoedd democrataidd a rennir a hawliau dynol sylfaenol yw ein sicrwydd ninnau hefyd mai drwy wleidyddiaeth y caiff gwahaniaethau eu datrys nid drwy rym. Mae’n annirnadwy ein bod ar hyn o bryd yn wynebu peryglu’r fantais honno ar drywydd rhyw droi cefn chwerw ar y byd.
Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Nid oes gennyf unrhyw gyngor ar gyfer y dosbarth gweithiol yng Nghymru o ffair y glas yn Rhydychen. [Chwerthin.] Ond gwn fod y grŵp o benboethiaid adain dde sy’n arwain yr ymgyrch i dynnu Cymru a’r Deyrnas Unedig allan o Ewrop yn ymgasglu o amgylch y bwrdd gamblo. Maent yn barod i gamblo gyda’n dyfodol ni—dyfodol ein plant a’n gwlad. Gadewch i’r neges seinio’n glir o’r Cynulliad hwn y prynhawn yma: mae Cymru yn well yn Ewrop. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, a dyna yw’r dewis sydd angen i ni ei wneud yr wythnos nesaf. [Cymeradwyaeth.]