Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch. Mae’n anhygoel i mi mai dwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd sy’n poeni am y dosbarth gweithiol yw’r pleidiau sy’n dadlau dros gael nifer fawr o bobl yn arllwys i mewn i’r wlad hon. Nid oeddent yn cymryd swyddi prif weithredwyr. Nid oeddent yn cymryd swyddi uwch-weision sifil. Nid oeddent yn cymryd swyddi bancwyr. Roeddent yn cymryd swyddi dosbarth gweithiol. Lle nad oeddent yn cymryd y swyddi hynny, maent wedi gorfodi pris llafur i lawr i’r fath lefel fel mai’r cyflog byw yn awr yw’r cyflog safonol. Gwarthus—bawb ohonoch.