Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i Russell am agor y ddadl yma a hefyd am dderbyn ein gwelliant ni, sydd yn ffeithiol, a dweud y gwir. Rydym ni yn gresynu bod yna doriadau wedi bod mewn chwaraeon ar lawr gwlad achos toriadau cyllidol. Ac wrth gwrs mae’n bwysig inni hefyd ymuno wrth longyfarch tîm pêl-droed Cymru, a wnaeth gael llwyddiant eithriadol dros y penwythnos. Ac, wrth gwrs, mae hwn yn hwb sylweddol i’n hiechyd meddwl i gyd, buaswn i’n meddwl, gan ein bod yn sôn am effaith mabolgampau, chwaraeon, ac ati ar ein hiechyd ni—nid jest iechyd corfforol, ond wrth gwrs iechyd meddwl. Mae pawb yn hapusach eu byd pan fydd ein timau cenedlaethol ni yn cael llwyddiant, ac yn arbennig, felly, pan oedd ar un adeg yn yr ail hanner yna yn edrych yn go ddu, ac wedyn roedd y bechgyn yn troi pethau rownd, ac yn lwyddo i ennill ar ddiwedd y dydd.
Ond rwy’n mynd i sôn nawr, yn yr amser sydd gyda fi, jest am bwysigrwydd ymarfer corff. Ffitrwydd, hynny yw: ffitrwydd, a’r angen i bawb gadw’n heini er mor anodd mae hyn yn gallu bod i nifer fawr ohonom ni. Ond rydym ni wastad yn gallu cerdded i lefydd, er enghraifft, yn lle defnyddio’r lifftiau. Achos mae yna sawl ymchwil meddygol wedi dangos rŵan bod cadw’n heini—bod yn ffit, hynny yw—yn eich diogelu chi rhag ddatblygu pethau fel dementia, yn lleihau graddfeydd o glefyd melys, pwysau gwaed a strôc ac ati—nifer o afiechydon rydym ni’n brwydro’n hir i ddatblygu tabledi newydd i’w trin nhw. Ac eto, os ydych chi’n ffit, rydych chi’n dueddol o ddioddef llai o’r afiechydon yna. Pe bai cadw’n ffit yn dabled, byddem ni i gyd yn mynnu bod NICE yn cytuno i feddygon fel fi i’w presgreibio. Ond mae bod yn ffit yn llawn fwy effeithiol na’r rhan fwyaf o dabledi sydd gyda ni ar hyn o bryd i fynd i’r afael â dementia a strôc ac ati.
Felly, cerdded 10,000 o gamau bob dydd ydy’r peth—10,000 ohonyn nhw. Mae’n ddigon hawdd i’w gyflawni, ond mae’n gallu bod yn her.
Nid wyf yn gwybod os wyf wedi sôn eto fy mod wedi bod yn Aelod o’r Cynulliad yma o’r blaen. Rhyw chwe mlynedd yn ôl yn awr, fe wnes i gael llwyddiant efo pasio Mesur yn diogelu ein meysydd chwarae ni yng Nghymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth o bob plaid bryd hynny i ddiogelu dyfodol ein meysydd chwarae ni, i wneud yn siŵr bod y genhedlaeth nesaf o Gareth Bales ac ati yn gallu cael rhywle i redeg o gwmpas, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf ni.
Ac, wrth gwrs, i orffen, fel rydym ni i gyd yn heneiddio, mae’r cyflymder treiddgar oedd gyda ni pan oeddem ni’n ifanc wrth chwarae rygbi neu bêl-droed ac ati yn dechrau mynd yn ddiffygiol rŵan fel rydym ni’n mynd yn hŷn, yn naturiol. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau eraill yn datblygu, fel pêl-droed wrth gerdded—’walking football’. Mae’n datblygu mewn sawl rhan o Gymru ac mae’n bwysig i’r rhai ohonom ni sy’n heneiddio a ddim yn gallu rhedeg o gwmpas cweit mor gyflym ag yr oeddem ni ers llawer dydd. Wrth gwrs, mae hwnnw hefyd yn edrych am gefnogaeth, fel pob camp arall.
I ddiweddu hefyd—tîm rygbi’r Cynulliad. Mae yna sawl Aelod yn fan hyn sy’n gallu chwarae rygbi i’r Cynulliad. Mi fyddaf yn gwneud ‘pitch’ i fod ar yr asgell chwith unwaith eto, am resymau amlwg. Ond, wrth gwrs, mae aelodaeth y tîm yna ar agor i bawb. Rwy’n edrych ar fy nghyd-Aelodau hefyd i ddatblygu’r ffitrwydd yna, i ddod yn rhan annatod o dîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diolch yn fawr iawn ichi.