Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 15 Mehefin 2016.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y system cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth prawf yn arbennig. Dros wyth mlynedd yn ôl erbyn hyn—yn ôl yng ngwanwyn 2008—cynhyrchais bapur polisi ar ran Plaid Cymru, o’r enw ‘Gwneud Ein Cymunedau’n Fwy Diogel’. Diben y papur hwnnw oedd gwella diogelwch cymunedol, ac roedd yn argymell datganoli’r system cyfiawnder troseddol fel y gallai Cymru, ymysg pethau eraill, fynd ar drywydd system cyfiawnder troseddol wahanol a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion troseddu. Roeddwn yn pwyso ar fy mhrofiad o weithio fel swyddog prawf yn ymdrin â throseddwyr, yn ogystal â’r wybodaeth ddamcaniaethol a oedd gennyf, ar ôl ymarfer fel tiwtor proffesiynol gwaith cymdeithasol ym maes prawf. Roedd gennyf ddealltwriaeth dda o’r hyn oedd yn gweithio, a’r hyn nad oedd yn gweithio, i ffurfio llawer o’r casgliadau a nodwyd yn y papur hwnnw.
Rwy’n siŵr fod llawer o’r Aelodau yma yn cofio comisiwn Silk, a bod y comisiwn hwnnw wedi argymell y dylai rheolaeth dros gyfiawnder ieuenctid a phlismona gael eu datganoli ac y dylai pwerau cyfiawnder troseddol eraill ddilyn yn y dyfodol. Fel y gwyddom, mae Silk wedi cael ei roi i’r naill ochr. Ers hynny mae diffyg gweithredu ar elfennau cyfiawnder troseddol yr agenda honno wedi arwain at werthu a phreifateiddio rhan fawr o’r gwasanaeth prawf, a’i hollti gan Lywodraeth glymblaid yn San Steffan na chafodd unrhyw fandad gan Gymru i lywodraethu. Nid oedd unrhyw gymhelliad cryf dros yr ad-drefnu hwn, a phrin ei fod wedi bod yn llwyddiant.
Yn 2013, graddiodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bob un o’r 35 ymddiriedolaeth prawf yn y wlad hon ac yn Lloegr fel rhai da neu ardderchog. Felly, nid oedd unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros ad-drefnu ar sail perfformiad. Mae canlyniadau’r newid hwn, sydd wedi’i gymell gan ystyriaethau ideolegol, yn fawr ac yn bellgyrhaeddol ac efallai’n wir na chânt eu gwireddu’n llawn am flynyddoedd lawer i ddod. Mae morâl ymhlith nifer o fy nghyn-gydweithwyr ar ei lefel isaf erioed. Mae staff yn y cwmni adsefydlu cymunedol—neu CRC—yng Nghymru wedi cael rhybudd y gallant ddisgwyl y caiff hyd at 44 y cant o’r staff eu diswyddo. Ceir rhaniad rhwng CRC a’r staff sy’n gweithio i’r gwasanaeth prawf cenedlaethol sy’n delio â throseddwyr risg uwch. Cyn preifateiddio, nid oedd unrhyw raniad o’r fath yn y gwasanaeth, a’r hyn sy’n werth ei ddeall yma yw bod pobl yn gallu newid gydag amser o ran y risg y maent yn ei greu. Felly, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i rannu gwaith adsefydlu troseddwyr yn y modd hwn. Mae gwybodaeth a rennir rhwng CRC a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn llawn anawsterau bellach, pan ddylem fod yn gwneud cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol mor hawdd â phosibl, yn enwedig pan fyddwn yn sôn am bobl beryglus. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd preifateiddio’r gwasanaeth prawf yn arwain at ganlyniadau gwaeth i droseddwyr, yn ogystal â chanlyniadau gwaeth i’r cymunedau y mae’n ddyletswydd ar bawb ohonom eu gwasanaethu.
Ysgrifennais at y Prif Weinidog ar dri achlysur gwahanol yn ystod y Cynulliad diwethaf ynglŷn â fy mhryderon ynghylch preifateiddio’r gwasanaeth prawf a’r niwed y byddai’n ei achosi. Roedd yn cytuno â llawer o’r pwyntiau a wneuthum. Roedd hi’n drueni er hynny nad oedd y Blaid Lafur yn San Steffan yn cytuno hefyd, ac yn gwneud rhywbeth effeithiol yn ei gylch. Rwy’n gobeithio y gallwn ddysgu o hyn. Hoffwn feddwl y gallwn gytuno mai’r lle gorau i gadw pwerau ar hyn a phopeth arall yw yn y mannau sydd agosaf at y bobl y mae’r penderfyniadau’n effeithio arnynt. Collwyd cyfle gwych i ddiogelu cadernid ac uniondeb y gwasanaeth prawf. Yn ddi-os, byddwn yn talu pris am hynny, ond ni ddylem ganiatáu i gyfleoedd o’r fath gael eu colli eto.