7. 7. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 5:50, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch i David Melding am ei sylwadau caredig, er bod yn rhaid i mi ddweud wrtho fy mod wedi dyfynnu Robert Peel er mwyn cynnwys naws hanesyddol yn unig ac nid o unrhyw gydymdeimlad at ei blaid. Ond mae’n codi pwynt pwysig ynghylch yr angen am lefel o gysondeb ar draws cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ac mae’n hollol iawn i ddweud, er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi sefydlu gwladwriaeth Gymreig, cyhyd ag y bo Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig rydym am iddi weithio cystal ag y gall dros bobl y wlad hon.

Soniodd Sian Gwenllian am fynediad at gyfiawnder. Sylfaen waelodol democratiaeth yw cael mynediad at gyfiawnder, ac roedd hi’n cysylltu hynny, wrth gwrs, â’r hawl i gael mynediad at gyfiawnder yn ein dwy iaith swyddogol.

O ran cyfraniad Mick Antoniw, croesawaf yn fawr ei optimistiaeth ac rwy’n cytuno’n llwyr fod y rhesymeg sydd wrth wraidd rhestr Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gymalau cadw angen peth eglurhad. Ac rydym yn cytuno, wrth gwrs, â’r eglurhad a roddodd o weithrediad ymarferol awdurdodaeth benodol.

Crybwyllodd Dai Lloyd y pwynt hanfodol hwn: er mwyn mynd i’r afael o ddifrif â phroblem aildroseddu, sy’n dal ar lefel uchel yng Nghymru, mae’n gwneud synnwyr perffaith i ddod â’r holl asiantaethau sy’n gyfrifol at ei gilydd yn rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymreig cydlynus wedi’i ddatganoli. Ac wrth gwrs, aeth arweinydd yr wrthblaid i’r afael â sgandal preifateiddio’r gwasanaeth prawf, a siaradodd am y rhwystrau artiffisial sy’n bodoli rhwng gwahanol asiantaethau sy’n ymdrin â gwahanol droseddwyr, a rhoddodd rybudd sobreiddiol i ni am ddyfodol y gwasanaeth prawf ar ôl datganoli.

Gwnaeth Jeremy Miles y pwynt dilys fod corff cynyddol o gyfraith Cymru yn galw am ddiweddaru ein system gyfreithiol mewn modd pragmataidd, a’r her a gododd ynghylch system cyfraith gyffredin o osod cynsail mewn un rhan o’r awdurdodaeth a fyddai’n cynnwys pob rhan ohoni. Ehangodd Dawn Bowden y ddadl ar ddyfodol datganoli i gynnwys ymestyn yr etholfraint etholiadol i gynnwys rhai 16 a 17 oed. Wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth rwyf fi a grŵp Plaid Cymru yn ei gefnogi’n llwyr.

Rwy’n croesawu’n fawr y gefnogaeth gan y Prif Weinidog i gynnig Plaid Cymru heddiw, er ei bod yn drueni ei bod yn ymddangos bod methiant Llafur i bleidleisio gyda Phlaid Cymru yn San Steffan yr wythnos hon yn seiliedig ar fater technegol yn fwy na dim byd arall. Ond roedd yn iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at yr anghysondebau yn y Bil Cymru cyfredol: mae yna faterion sydd wedi’u cysylltu’n annatod lle mae rhai wedi’u datganoli neu’n mynd i gael eu datganoli ac eraill yn dal i fod wedi’u cadw’n ôl. Unwaith eto, mae hynny’n mynd yn ôl at y pwynt a wnaed yn gynharach am y rhesymeg sydd wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at ei rhestr o gymalau cadw, yn arbennig, er ein bod yn gobeithio y bydd hynny’n cael sylw.

Mae’r asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder yn offeryn a fydd yn berthnasol, mae’n ymddangos, i Gymru yn unig ac nid i unrhyw un o weinyddiaethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig, ac roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le yn codi amheuon ynglŷn â hynny. Rwy’n croesawu’n fawr y cadarnhad a roddodd heddiw ei fod yn gefnogol i weld Cymru yn cael ei thrin fel cenedl gyfartal o fewn y Deyrnas Unedig, ac i setliad datganoli sy’n adlewyrchu hynny.

Ac yna Mark Isherwood. Roedd yr eironi o gael eich galw yn ymwahanwr gan ymynyswr gwrth-UE yn uchafbwynt arbennig. [Chwerthin.] Ond fe ddywedaf fy mod yn methu â deall pam y mae’n gwrthwynebu dod â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn nes at ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau i bobl ac er mwyn sicrhau mwy o atebolrwydd, er bod hynny, fel y nododd y Prif Weinidog, yn rhywbeth sy’n cael ei dderbyn gan ei blaid yn yr Alban. [Torri ar draws.] Ni fyddaf yn cymryd ymyriad.

Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen yn awr at weithio gydag eraill i ddarparu cenedligrwydd Cymreig cryfach sydd, yn ei dro, yn arwain at welliannau sylweddol i fywydau ein cyd-ddinasyddion o ddydd i ddydd. Ac i gloi, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i swyddogion yr heddlu heddiw am eu gwaith yn cadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn wir, i holl aelodau ein gwasanaethau brys. Yn aml iawn yn y dadleuon hyn, mae eu hymdrechion yn cael eu hanwybyddu, ond hoffwn gofnodi diolch Plaid Cymru iddynt ac rwy’n siŵr y byddai’r Cynulliad cyfan yn ymuno â mi i wneud hynny.