Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 15 Mehefin 2016.
Symudwn ni ymlaen i’r cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Fe fydd y bleidlais gyntaf ar y ddadl gan Aelodau unigol a’r cynnig yn enw Eluned Morgan, Dawn Bowden a Dafydd Elis-Thomas. Rwy’n agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, yn erbyn 9. Felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.