Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 15 Mehefin 2016.
Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Mae’n fraint a dweud y gwir cael cyflwyno dadl fer gyntaf y pumed Cynulliad. Rwyf wedi cytuno i Lee Waters a Jenny Rathbone gael cyfran o’r amser sydd wedi’i glustnodi ar gyfer fy nghyfraniad i i’r ddadl fer yma.
Nawr, ‘Cyflawni Dyfodol Ynni Craffach i Gymru—Blaenoriaethau Polisi Ynni ar gyfer Llywodraeth Newydd Cymru’ yw’r teitl rwyf wedi’i ddewis, teitl wrth gwrs sy’n cyfeirio at hwn, sef adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf. Adroddiad a gyhoeddwyd yn sgil ymchwiliad y pwyllgor a aeth ati i amlinellu gweledigaeth a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar ddyfodol ynni i Gymru sy’n gwireddu dyletswyddau moesol a chyfreithiol, o safbwynt newid yn yr hinsawdd, ond hefyd gwireddu y potensial economaidd sy’n dod o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn gyfrifol ac yn gynaliadwy ac mewn modd sy’n creu cyfoeth i bobl Cymru, ac sy’n mynd ati i greu llu o gyfleodd eraill o ran taclo tlodi tanwydd, ymbweru cymunedau lleol i fod yn fwy rhagweithiol wrth bennu eu dyfodol ynni nhw eu hunain, a phob math o agweddau positif eraill sy’n dod yn sgil hynny.
Nawr, mi gyhoeddwyd yr adroddiad tuag at ddiwedd y Cynulliad diwethaf, fel roeddwn i’n ei ddweud, gyda’r ddadl ar yr adroddiad yn digwydd ar ddiwrnod olaf y pedwerydd Cynulliad fan hyn yn y Siambr. Bwriad yr adroddiad oedd nid edrych yn ôl, nid ffeindio bai, yn sicr nid pwyntio bys mewn unrhyw ffordd, ond bod yn adeiladol, yn ymarferol, cynnig gweledigaeth a chyflwyno her i Lywodraeth nesaf Cymru ar y pryd, trwy amlinellu y cyfleoedd, y blaenoriaethu a rhyw deimlad o frys hefyd—’a sense of urgency’—sydd yna o ran cwrdd â’r her sydd o’n blaenau ni. Roedd yna gonsensws clir o gefnogaeth i argymhellion y pwyllgor yn y pwyllgor ei hunain, wrth gwrs, ac fe basiwyd y cynnig i nodi’r adroddiad yn unfrydol fan hyn yn y Siambr.
Yn naturiol ddigon, wrth ymateb i’r adroddiad, bach iawn cawsom gan y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac roedd hynny’n ddigon teg oherwydd, wrth gwrs, roedd y neges yn glir mai mater i Lywodraeth Cymru nesaf fyddai mynd i’r afael â’r agenda sy’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad. A dyna pam, felly, rydw i wedi dewis y pwnc yma heddiw ar gyfer fy nadl fer i. Nid wyf am i’r adroddiad yma fynd yn angof; nid wyf eisiau colli’r momentwm, yn sicr, a’r consensws y tu ôl i’r adroddiad yma ychwaith. Rydw i am weld y Llywodraeth newydd, yn deall, wrth gwrs, mai hwn yw un o’r blaenoriaethau pennaf sydd gennym ni o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, un o’r heriau pwysicaf sy’n ein hwynebu ni fan hyn yng Nghymru. A dyma’r cyfle cyntaf, felly, i’r Llywodraeth newydd a’r Ysgrifennydd newydd—ac rydw i’n ei llongyfarch hi ar ei phenodiad, wrth gwrs—i ymateb i argymhellion yr adroddiad ar sut y mae hi’n bwriadu mynd ati i gwrdd â’r heriau a gwireddu’r cyfleoedd yma sydd gennym ni a beth yw ei gweledigaeth hi a’i Llywodraeth o ran cyflawni’r dyfodol ynni craffach yna i Gymru.
Yn amlwg, ni fedraf restru popeth sydd yn yr adroddiad yn fy nadl fer heddiw, ond rydw i am dynnu sylw, yn fyr, at rai o’r prif bwyntiau. Un o’r argymhellion cryfaf sy’n dod o’r ymchwiliad, wrth gwrs, gan y pwyllgor, yw’r angen i Gymru bennu gweledigaeth gydlynol a strategol glir ar gyfer ei pholisi ynni yn y dyfodol, a hynny’n cynnwys targedau clir er mwyn sbarduno cynnydd, a’i bod hefyd yn cynnwys eglurder o ran y math o gymysgedd o ffynonellau ynni a fydd yn dod at ei gilydd i greu’r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom ni, ac, wrth gwrs, sut rŷm ni’n mynd i sicrhau rôl ganolog i ynni lleol yn hyn i gyd.
Mae’r adroddiad yn ei gwneud hi’n glir bod yn rhaid i Gymru osod targedau blynyddol i leihau’r galw am ynni a helpu pobl i’w ddefnyddio’n fwy effeithlon. Mae’r adroddiad yn gofyn am osod targedau i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac, yng nghyd-destun yr angen i leihau allyriadau carbon o leiaf 80 y cant erbyn 2050, mae’r adroddiad yn dweud y dylai Cymru bennu dyddiad targed ar gyfer hunangynhaliaeth ynni hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl bosib. Mae’r Almaen, er enghraifft, wedi ymrwymo, erbyn 2050, i sicrhau bod 80 y cant o’i ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac, yn fwy na hynny, wrth gwrs, erbyn yr un flwyddyn, ei bod hi’n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant ac yn creu miliynau o swyddi ac yn ychwanegu at ei GDP. Mae’n rhaglen drawsnewidiol sydd, wrth gwrs, yn dangos y ffordd ymlaen i nifer ohonom ni.
Mae’n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Uruguay, sydd â phoblogaeth debyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau, mewn llai na 10 mlynedd, bod 95 y cant o’i trydan yn dod o ynni adnewyddadwy gan leihau, wrth gwrs, ei hôl-troed carbon, ond hefyd lleihau biliau i’w phobl ar yr un pryd. Maen nhw wedi dangos, gyda gweledigaeth ac arweinyddiaeth benderfynol, bod modd gwneud cynnydd sylweddol a sydyn tuag at economi carbon isel.
Mae angen gwneud penderfyniadau anodd, wrth gwrs, am y cydbwysedd rhwng buddsoddiad ynni mawr a bach, cynhenid a thramor, ac mi ddylai’r weledigaeth ar gyfer ynni craffach fod yn ddigon hyderus i flaenoriaethu datblygu systemau cyflenwi ynni lleol er budd ein cymunedau ni.
Nid oes angen, gyda llaw, i Gymru aros i gael rhagor o bwerau gan San Steffan cyn cyflawni’r rhan fwyaf o’r weledigaeth sydd yn yr adroddiad yma; mi allwn ni ddechrau ar lawer o’r gwaith yma nawr. Er enghraifft, lleihau’r galw am ynni yw’r rhan bwysicaf o drosglwyddo i ddyfodol ynni craffach yn fy marn i. Mae aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario 80 y cant o’u costau ynni yn gwresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref. Mae angen, felly, i ni wneud yn siŵr bod cartrefi mor effeithlon ag sy’n bosib o ran ynni.
Nawr, o dan gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau’r Undeb Ewropeaidd, mae’n rhaid i bob adeilad, wrth gwrs, bod yn agos at sero o ran allyriadau erbyn diwedd 2020. Yn wir, mae’n rhaid codi adeiladau cyhoeddus i’r safon hon erbyn diwedd 2018. Roedd hi’n siom i nifer ohonom ni fod y Llywodraeth ddiwethaf—ac rwyf i wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith, rwy’n gwybod—wedi methu cyfle pan ddiwygiwyd y rheoliadau adeiladu ychydig flynyddoedd yn ôl. Er mynd allan i ymgynghori ar yr angen i bob tŷ gyrraedd safon perfformiad ynni sydd yn 25 y cant neu 40 y cant yn fwy effeithlon na safon 2010, mi aethpwyd yn y diwedd, wrth gwrs, am safon o ddim ond 8 y cant. Mae’n rhaid diwygio hyn ar frys; mae’r drefn bresennol, wrth gwrs, nawr, yn cloi aneffeithlonrwydd ynni i mewn i’r system am oes y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu.
Mae gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai presennol ni hefyd, wrth gwrs, yn allweddol, trwy ôl-ffitio mesurau effeithlonrwydd ynni. Tra bod cynlluniau fel Arbed a Nyth yn gwneud cyfraniadau i’r dasg yma, cyfraniadau bach ydyn nhw, wrth gwrs, ac nid ydyn nhw unlle’n ddigon agos i faint yr her sydd yn ein hwynebu ni a lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn gwirionedd. Dyna pam, wrth gwrs, roedd yna ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru i fuddsoddi biliynau o bunnau dros y ddwy ddegawd nesaf i gwrdd â’r her yna trwy gomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru. Gobeithio y bydd y trafodaethau sydd wedi bod rhyngom ni a’r Llywodraeth yn hwyluso, yn y pen draw, hynny i ddigwydd. Nawr, mae angen i Gymru godi ei gêm, yn sicr, yn hyn o beth, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed beth yw cynlluniau’r Llywodraeth newydd er mwyn gwneud hynny.
Ar draws Lloegr, mae awdurdodau lleol yn sefydlu hefyd, wrth gwrs, gwmnïau cyflenwi ynni dielw. Yng Nghymru, mae gennym ni brofiad o gwmni cyfleustodau dielw llwyddiannus iawn, sef Dŵr Cymru, ac mae’n bryd inni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y maes ynni. Mi glywodd y pwyllgor sut y mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr, gan gynnwys Bryste a Nottingham yn benodol, yn gallu targedu tlodi tanwydd drwy gyflenwi ynni i aelwydydd yn eu hardaloedd ar gyfradd ostyngol. Yn Nottingham, mae Robin Hood Energy yn cynnig tariff ar gyfer trigolion dinas Nottingham yn unig a hefyd yn gallu gosod cyfraddau is mewn ardaloedd lle mae yna lawer o dlodi tanwydd.
Nawr, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, yn darparu rhwydweithiau gwres lleol ac mae cyngor Wrecsam wedi cyflawni’r cynllun ynni solar mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ond mae angen mynd ymhellach. Mae angen sefydlu cwmni gwasanaeth ynni ymbarél dielw. O dan yr ymbarél hon wedyn gall awdurdodau lleol neu gymunedau, hyd yn oed, gynnig cyflenwad ynni yn lleol a’r nod yn y pen draw, wrth gwrs, yw i gwmni o’r fath allu cael ei holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru.
Nawr, allwn ni ddim sôn am bolisi ynni yng Nghymru heb sôn am y grid, ac rydw i wedi dweud droeon yn y Cynulliad yma bod yr amser wedi dod inni symud oddi wrth y model ‘hub and spoke’ o gynhyrchu ynni mewn pwerdai mawr ac yna’i drosglwyddo fe ar hyd a lled y wlad drwy grid hynafol, aneffeithlon a chostus. Mae angen inni symud i fodel o gridiau lleol, clyfrach, gyda’r ynni’n cael ei gynhyrchu yn nes at le mae’n cael ei ddefnyddio, rhwydweithiau sy’n fwy effeithlon yn cynnig mwy o gydnerthedd neu ‘resilience’ i’r gyfundrefn ynni, sy’n llai hagr ar y dirwedd, wrth gwrs, ac yn rhatach hefyd o ran cost cynnal a chadw. Nawr, mae diffyg capasiti ar y grid presennol yng Nghymru yn rhwystr sylweddol hefyd o safbwynt cynhyrchu ynni lleol. Mae angen, felly, i’r grid cenedlaethol, gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu—y DNOs—ac Ofgem chwarae eu rhan wrth ymateb i’r cynnydd ŷm ni am ei weld mewn cynhyrchu ynni gwasgaredig. Yn hynny o beth, wrth gwrs, mae’r adroddiad hefyd yn ei gwneud hi’n glir bod angen i Gymru gael llais llawer mwy cryf a llawer mwy ystyrlon ar y cyrff penodol yma.
Nawr, fe gychwynnodd y pwyllgor amgylcheddol ei waith ar ddechrau’r pedwerydd Cynulliad drwy edrych ar ynni a’r gyfundrefn cynllunio, ac roedd hynny yn ystyriaeth bwysig iawn, wrth gwrs, yn yr adroddiad rydw i’n canolbwyntio arno heddiw. Ni wnaf i ymhelaethu, dim ond ategu bod angen i’r gyfundrefn gynllunio fod yn llawer mwy effeithiol o safbwynt hwyluso projectau ynni lleol a chymunedol, yn arbennig bod yna fwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r sector yna—ymestyn hawliau datblygu a ganiateir, er enghraifft, er mwyn i’r projectau yma fynd yn eu blaen. Mae angen symleiddio’r broses, hefyd, o safbwynt ymgeisio ar gyfer cynllunio a chael caniatâd ar gyfer projectau o’r fath, a hefyd sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er tegwch, y capasiti angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau yn y maes yma yn effeithiol ac yn amserol.
Un o’r ffyrdd pwysicaf o gefnogi ynni newydd, wrth gwrs, yw drwy gynyddu sicrwydd yn y farchnad ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac rŷm ni’n gwybod bod newidiadau diweddar i’r polisïau ar dariffau cyflenwi trydan a chymorth arall ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi achosi ansicrwydd mawr i fuddsoddwyr, yn bennaf, wrth gwrs, o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. A Llundain sydd yn dal nifer o’r pwerau hyn. Ond mae yna ffyrdd gwbl ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu i wneud gwahaniaeth. Mae yna gyfleoedd i ddarparu tir sy’n berchen gan y Llywodraeth ar gyfer projectau ynni. Mae yna le inni fanteisio i’r eithaf, wrth gwrs, ar bob ffynhonnell posib o gyllid. Nawr, mae hyn yn cynnwys nifer o ffynonellau Ewropeaidd, ac mae rhywun yn gobeithio, wrth gwrs, yn dilyn yr wythnos nesaf, y bydd modd inni gael mynediad at ffynonellau megis cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, megis cyllid Horizon 2020, y rhaglenni datblygu gwledig ac yn y blaen. Mae yna le i gynllun benthyciadau, efallai, yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac rŷm ni’n gwybod am yr angen i ddarparu gwasanaethau dal llaw i gynorthwyo projectau lleol a phrojectau cymunedol.
Mae yna gyfleoedd o safbwynt hyfforddi a sgiliau ac mae yna nifer fawr o gyfleoedd eraill sydd yn cael eu crybwyll yn yr adroddiad. Mae’r agenda ynni yn amlwg yn un sylweddol. Mae’n faes eang sydd yn cyffwrdd ag ystod o feysydd polisi a phortffolios llawer i Ysgrifennydd Cabinet yn y Llywodraeth newydd, wrth gwrs. Yr un peth sy’n glir, serch hynny: mae’r cyfleoedd i Gymru o gael hyn yn iawn yn eithriadol o gyffrous—buddion a manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol arwyddocaol iawn, iawn. Mae’r her wedi ei osod fan hyn, yn yr adroddiad yma a’i argymhellion. Y cwestiwn nawr yw: sut y mae’r Llywodraeth newydd a’r Ysgrifennydd newydd am ymateb er mwyn gwireddu hyn drwy fynd ati i gyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru?