Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 15 Mehefin 2016.
Dof at hynny mewn eiliad. Cefais gyfarfod y bore yma, mewn gwirionedd, gyda Carl Sargeant, sydd bellach yn gyfrifol am dai, wrth gwrs, pan fuom yn trafod yr union fater hwnnw. Ond byddaf yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen.
Rwy’n meddwl bod y system ynni eisoes yn cael ei thrawsnewid, ac mae hyn yn amlwg o’r adroddiad ar gynhyrchu ynni carbon isel a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd diwethaf. Roedd gan Gymru 2,280 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy wedi’i osod ar ddiwedd 2014, ac roedd wedi codi o 1,101 MW yn 2012; cyflawnwyd 14,380 o brosiectau ar draws Cymru, o fferm wynt ar y môr 576 MW Gwynt y Môr i bron 11,000 o araeau ffotofoltaidd solar. Gwyddom fod datblygiadau wedi parhau yn ystod y 18 mis ers hynny, ac rwy’n meddwl bod yna gyfleoedd ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny’n cynnwys prosiect £12 biliwn Wylfa Newydd yng ngogledd Cymru ac wrth gwrs, y morlyn llanw ym mae Abertawe.
Mae angen i ni sicrhau bod gennym gymysgedd ynni hyblyg ac amrywiol iawn yma yng Nghymru, ac wrth i ni symud ymlaen tuag at economi carbon isel, mae angen i’n blaenoriaethau ynni gefnogi swyddi a sgiliau carbon isel, gan sicrhau bod datblygiadau ynni o fudd i bobl Cymru a bod y system reoleiddio yn gwarchod eu buddiannau. Ar y cyd ag adroddiad y pwyllgor, rwy’n gweld rôl bwysig a chynyddol i gynhyrchu a chyflenwi’n lleol yn seiliedig ar ffynonellau adnewyddadwy, gyda dulliau storio mwy clyfar a dulliau o reoli’r grid yn lleol, ac unwaith eto, dros y pum mlynedd diwethaf, rwy’n meddwl ein bod bellach wedi sefydlu fframwaith i bolisïau a deddfwriaeth a fydd yn galluogi’r newid hwnnw. Rydym wedi darparu arweinyddiaeth drwy’r set arloesol o ddeddfau sy’n defnyddio’r ysgogiadau sydd gennym. Cynlluniwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gynyddu lles Cymru drwy sicrhau bod pob un o’n camau gweithredu yn darparu manteision cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, ac mae’n rhaid i ni barhau i hyrwyddo camau gweithredu ar ynni, gan ddarparu manteision niferus a helpu i gyflawni’r nodau llesiant. Bydd hyn yn golygu symud y targed statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei flaen. Bydd gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus lleol rôl bwysig yn trosi targedau’n gamau gweithredu lleol, a bydd cynhyrchu ynni carbon isel ac arbed ynni yn elfennau craidd yn y broses o’u cyrraedd. Yn wir, bydd angen i ynni fod yn ystyriaeth sylfaenol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Atgoffwyd awdurdodau lleol am y gofyniad hwn i gynllunio’n gadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy, a byddwn yn parhau i’w cynorthwyo i wneud hyn.
Mae’r newidiadau i’r cyfundrefnau cydsynio a addawyd drwy Ddeddf Ynni y DU 2016 a Bil Cymru, yn ogystal â gweithredu gweithdrefn ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, yn rhoi cyfle i wneud penderfyniadau am brosiectau ynni adnewyddadwy arwyddocaol er budd pobl Cymru. Rydym wedi cyhoeddi strategaeth arbed ynni a datganiad ar ynni lleol sy’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r polisi ynni a rheoleiddio’r farchnad yn faterion sydd wedi’u datganoli, felly rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, gyda gweithredwyr y grid ac Ofgem i sicrhau’r newid yn y rheoliadau ac yn y marchnadoedd sydd ei angen ar Gymru.
Ar gyfer adeiladau newydd, mae gwella perfformiad ynni drwy safonau adeiladu yn bwysig o ran cyflawni ein hamcanion llesiant. Soniais wrth Nick Ramsay fy mod wedi cyfarfod â Carl Sargeant bore yma. Ei bortffolio ef sy’n cynnwys adeiladu tai bellach, a buom yn siarad ynglŷn â’r modd y mae angen i ni adeiladu tai ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i ni godi safonau mewn modd costeffeithiol sy’n cydnabod pwysigrwydd economaidd adeiladu tai yng Nghymru, ac rydym yn mynd i barhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau ein bod yn cydbwyso’r angen i leihau’r galw am ynni mewn tai newydd gyda’r angen i ateb y galw am dai. Nid wyf yn meddwl y gallwn barhau i adeiladu yr un math o dai a disgwyl na fydd ynni carbon isel yn rhan ohonynt, oherwydd yn amlwg, wrth i gostau ynni godi, nid y tai rydym wedi bod yn eu hadeiladu fydd yr hyn y bydd pobl eu heisiau yn y dyfodol.