Part of the debate – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Fe wnaeth Jo Cox, neu Jo Leadbeater, neu Jo fach, fel y bydd llawer yng Nghymru yn ei chofio hi, fyw bywyd llawn a gwych. Roedd llawer ohonom yn Llafur Cymru yn gyfarwydd â hi pan oedd hi'n gweithio i Glenys Kinnock, a dyna pryd y datblygodd ei brwdfrydedd dros ddatblygu rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol. Nid oes fawr o amheuaeth bod yr ymosodiad ar Jo Cox yn wleidyddol ei natur. Roedd yn ymosodiad anfaddeuol a chreulon, nid yn unig ar wleidydd benywaidd, yn gwneud ei gwaith, ond yn erbyn popeth yr oedd hi'n ei gynrychioli. Ond nid gwleidyddiaeth y dylem fod yn myfyrio arno heddiw, ond y person.
Roedd ganddi lawer iawn o ffrindiau yng Nghymru, ac roedd pawb yn gwybod bod ei gyrfa wleidyddol yn mynd i fod yn rhywbeth arbennig, nid oherwydd ei huchelgais, ond oherwydd ei phenderfyniad ffyrnig, ei gwedduster, a'i hawydd sylfaenol pendant i gyflawni pethau. Roedd hynny'n golygu cynnig llaw cyfeillgarwch ar draws y rhaniad gwleidyddol. Byddai Jo wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 42 yfory, a bydd digwyddiadau ar draws y byd, lle y bydd pobl yn ailadrodd yr ymadrodd hwnnw sydd eisoes wedi dod yn fantra, rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin ... na'r pethau sy'n ein gwahanu.
Lywydd, cafodd bywyd Jo ei dorri'n fyr, ond yr oedd yn fywyd a gafodd ei fyw yn llawn, ac yn fywyd a oedd wedi rhoi ysbrydoliaeth i ni. Ac ar yr ysbrydoliaeth honno y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio heddiw ac yn y dyfodol, ac nid dim ond ar y digwyddiadau trychinebus a ddigwyddodd ddydd Iau diwethaf.