Part of the debate – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Wnes i erioed gwrdd â Jo Cox, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig sy'n uniaethu ag agweddau ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed amdani, ac â pheth o'r wleidyddiaeth yr oedd hi'n ei chynrychioli. Yn hytrach na defnyddio fy ngeiriau i heddiw, byddai'n well gennyf ddefnyddio ei rhai hi. Yn ei haraith gyntaf yn San Steffan, dywedodd Jo Cox AS,
Mae ein cymunedau wedi eu gwella yn helaeth gan fewnfudo, boed hynny gan Gatholigion Gwyddelig ar draws yr etholaeth neu Fwslimiaid o Gujarat yn India neu o Bacistan, yn bennaf o Kashmir. Wrth i ni werthfawrogi ein hamrywiaeth, yr hyn sy'n peri syndod i mi dro ar ôl tro wrth i mi deithio o amgylch yr etholaeth yw ein bod yn llawer mwy unedig a bod gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r pethau sy'n ein gwahanu.'
Nawr, nid yw wedi ei brofi y tu hwnt i bob amheuaeth resymol pa un a gafodd ei lladd oherwydd y credoau hyn, ond mae'n ymddangos i mi mai'r deyrnged fwyaf addas y gallwn ei thalu i'r wraig hon yw cofio ei geiriau ac, er cof amdani, i bob un ohonom ni weithio dros gymdeithas a gwleidyddiaeth lle nad oes casineb.