Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Nid wyf yn cymryd arnaf fy mod yn adnabod Jo Cox, ond mae digwyddiadau dydd Iau diwethaf wedi syfrdanu pob un ohonom. Ymwelodd drwg pur â Jo Cox a'i theulu yr wythnos diwethaf, a'i hetholaeth, pan oedd hi wrth ei gwaith mewn swydd yr oedd hi'n teimlo'n angerddol amdani, ac yr wyf yn meddwl ei bod wedi dweud, yn ei geiriau ei hun, mai hon oedd y swydd yr oedd hi'n credu ei bod hi wedi ei pharatoi amdani ar hyd ei hoes, sef cyflawni llwyddiant i'r cymunedau yr oedd hi'n eu cynrychioli a'r achosion a oedd yn agos at ei chalon. Ac yn sicr fe aeth hi â'r achosion hynny yr holl ffordd i galon grym yn y Senedd a'r Llywodraeth, a gweithiodd ar draws y rhaniad gwleidyddol, gan brofi pan fo gwleidyddion yn gweithio gyda'i gilydd, rydym mewn gwirionedd yn cyflawni llawer mwy.
Un peth y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod teulu heddiw nad yw'n teimlo cynhesrwydd a chariad mam na gwraig ychwaith, a nhw yw'r rhai sydd wedi cael y golled fwyaf yn hyn i gyd, ond rydym ni fel cymdeithas yn llawer tlotach o golli unigolyn fel Jo Cox, ac ni ddylem fyth adael i'r fflam a oleuodd hi ddiffodd, a dylem sefyll yn gadarn dros y credoau a'r achosion y brwydrodd hi drostynt a gwneud yn siŵr na fydd y drwg a ymwelodd â'r wlad hon, ei hetholaeth, a'i theulu yr wythnos diwethaf, yn ennill.