Part of the debate – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 21 Mehefin 2016.
Hoffwn gysylltu fy hun a'm plaid â phopeth a ddywedwyd yma heddiw. Fel Andrew Davies, nid oeddwn yn adnabod Jo Cox; roedd hi'n amlwg yn berson rhyfeddol iawn ar drothwy yr hyn rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn yrfa wleidyddol lwyddiannus iawn. Ni fyddai effaith ei marwolaeth drasig wedi arwain at y cyhoeddusrwydd enfawr yr ydym wedi ei weld, oni bai am natur ei phersonoliaeth, ac er nad oeddwn yn ei hadnabod, roeddwn i yn adnabod yr Aelod Seneddol diwethaf i gael ei lofruddio, Ian Gow, yn dda iawn, iawn, felly rwyf yn deall, o brofiad personol, yr effaith ar y rhai a oedd yn ei hadnabod. Dywedodd Rachel Reeves ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yr hyn y mae Andrew Davies newydd ein hatgoffa ohono, fod hon yn drasiedi bersonol hefyd. Er y bydd Batley a Spen yn cael Aelod Seneddol newydd, ni fydd y plant druan hynny yn cael mam newydd, a dylai hynny yn sicr effeithio ar bob un ohonom. A dylem fynd allan, mi gredaf, yn ein gwahanol bleidiau ac yn ein ffyrdd gwahanol, yn yr ysbryd y gwnaeth Jo Cox fyw ei bywyd ac yn ymladd ei gwleidyddiaeth—gyda thrugaredd a pharch, ac, yn anad dim, parch at y ddynoliaeth gyfan. Rwyf yn credu y bydd hi, drwy ei marwolaeth, yn cyflawni llawer mwy nag y bydd unrhyw un ohonom ni yn ei gyflawni yn ein bywydau.